Pam y dylen ni boeni am gydweithredu?

Ruth StudleyMae ein blogger gwadd, Ruth Studley , Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, yn egluro pwysigrwydd cydweithio.

Efallai y byddwch yn holi pam y dylen ni boeni am gydweithredu.

Mae cydweithredu’n hanfodol yn yr oes sydd ohoni, lle’r ydym eisiau gwneud yr effaith fwyaf posibl a hynny gyda llai o adnoddau’n aml iawn.

Mae angen i bob un ohonom wybod beth rydym yn ei wneud a pham.  Mae angen i ni wybod sut mae ein rôl bersonol ni’n rhan o nodau ein sefydliad.

Mae angen i ni fynd gam ymhellach yn y sector cyhoeddus ac ystyried sut mae ein rolau personol a sefydliadol yn rhan o’r nod ehangach o fod eisiau cael effaith gadarnhaol ar y boblogaeth.  Gallwn wneud hyn ar ein pennau ein hunain, ond rydym yn cael mwy o effaith pan fyddwn yn ei wneud gydag eraill.  Ydych chi’n cytuno?

Pam nad ydyn ni’n cydweithredu mwy – A ydyn ni i gyd yn deall beth yw ystyr cydweithredu?  

Mae Geiriadur Prifysgol Cymru’n nodi mai cydweithredu yw ‘ymgymryd â gwaith neu fusnes, &c, gydag eraill i ryw ddiben cyffredin, cydweithio, llafurio ynghyd’.  

Rwy’n credu bod cydweithredu effeithiol yn fwy na hyn.  Mae’n fwy na nod cyffredin gyda cherrig milltir a thargedau cyflawniadwy cytûn.  Caiff ei gyfoethogi gan ymddiriedaeth a pharch, bod yn agored, gonestrwydd a thryloywder ynghylch barn a safbwyntiau croes i’w gilydd, datrys problemau anodd er mwyn dod i gytundeb, amcan sy’n dderbyniol gan bawb.

Sut rydyn ni’n cydweithredu mwy – Ydych chi wedi ystyried sut mae cydweithredu’n edrych yn eich amgylchedd chi?

Cydweithredu yw’r sbardun sy’n gyrru Arolygiaeth Cymru. Ond beth mae hynny’n ei olygu?  Sut mae’n edrych?  Sut mae’n teimlo?

O safbwynt personol, mae’n ymwneud ag ymddiriedaeth, parch rhwng y naill a’r llall, bod yn agored, gonestrwydd, a dibynadwyedd.  Yn ddiddorol, gellir crynhoi hyn yn fathemategol:
trust-equation-image-welsh

I ddechrau, beth am i ni ystyried yr agweddau hynny ar ymddiriedaeth sy’n cael effaith gadarnhaol ar gydweithredu.

Hygrededd – ydych chi’n dweud yr hyn rydych yn ei wybod ac a yw’n gywir?  Sut rydych chi’n gwybod?

Dibynadwyedd – ydych chi’n gwneud yr hyn y gwnaethoch ddweud y byddech yn ei wneud?

Agosrwydd – ydych chi’n adnabod eich cydweithwyr, staff, rheolwyr? Ydych chi’n eu gwerthfawrogi nhw ac yn eu hysbrydoli?  Ydych chi’n gwybod beth yw eu gwerthoedd ac yn eu gwerthfawrogi?

Mae’n ddefnyddiol i fyfyrio ar ein hymddygiadau a gwerthuso’r nodweddion hyn yn onest.

Fel unrhyw fathemategydd, rwy’n gwybod beth yw pŵer yr enwadur!  Mae’r gallu gan y cilydd i danseilio’r rhifiadur.  Yn y cyd-destun hwn, gall wneud difrod sylweddol i’r ymddiriedaeth a’r gydberthynas a adeiledir gennym.  Rhaid i ni fod yn ymwybodol o hunan-fudd wrth ystyried yr enghraifft hon.

Ydych chi’n gwneud penderfyniadau neu’n ymddwyn mewn ffordd arbennig er eich budd eich hun heb ystyried yr effaith ar eraill?  Ydy popeth yn troi o amgylch eich brand chi?  Eich nod chi?

Mae Arolygiaeth Cymru’n seiliedig ar lawer o’r egwyddorion hyn.  Er enghraifft, mae cyhoeddi’r egwyddorion rhannu gwybodaeth yn ddiweddar yn golygu bod angen ymddiried yn sylweddol mewn sefydliadau eraill i ddefnyddio’r wybodaeth honno’n briodol a’i chadw’n ddiogel.  Mewn nifer o feysydd, rydym yn nodi ein hamcanion ar y cyd neu amcanion sy’n gorgyffwrdd ac yn canolbwyntio ar gyflenwi’r rhain gyda’n gilydd er mwyn cyflawni canlyniadau gwell i bobl.

Yn wir, fe allem ddefnyddio grym y cilydd yma a dweud – pam na fyddech yn cydweithredu?  Trwy ganolbwyntio ar ein buddiannau ein hunain a rhai ein sefydliad, gall gwrthwynebiad ddatblygu yn hytrach nac ymddiriedaeth, ond yn y pen draw gellir goresgyn hyn gan y rhai sy’n hygoel ac yn ddibynadwy ac agored, ac sydd am weithio gyda’i gilydd i gyflawni gwell canlyniadau.

I gloi, rwyf am ddyfynnu Helen Keller:

“Rydym yn gwneud cyn lleied ar ein pennau ein hunain; gallwn wneud cymaint gyda’n gilydd.”

Ruth Studley yw’r Cyfarwyddwr Strategaeth a Datblygu yn Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC). Cyn ymuno a AGIC Ruth oedd  Pennaeth Ystadegau Iechyd yn StatsCymru.

Safbwyntiau ynghylch adroddiad ar annibyniaeth pobl hŷn yng Nghymru

Yr wythnos hon mae Archwilydd Cyffredinol Cymru wedi cyhoeddi’r adroddiad ‘Helpu Pobl Hŷn i Fyw’n Annibynnol: A yw Cynghorau’n Gwneud Digon?’

Mae’r adroddiad yn archwilio i ba un a yw cynghorau’n gweithio’n effeithiol i helpu pobl hŷn i fyw’n annibynnol. Er bod sector cyhoeddus Cymru’n cydnabod yr heriau’n gysylltiedig â phoblogaeth sy’n heneiddio, daeth yr adroddiad i’r casgliad fod rhai rhwystrau allweddol yn cyfyngu ar y newid ffocws sydd ei angen er mwyn lleihau’r galw am wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol a helpu pobl hyn i fyw’n annibynnol.

Fe gynhaliwyd yr astudiaeth hon gan Swyddfa Archwilio Cymru ac Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru, sy’n rhan o Arolygu Cymru, ynghyd â Chomisiynydd Pobl Hŷn Cymru.

Yn y gyfres hon o fideos, mae Archwilydd Cyffredinol Cymru, Prif Arolygydd Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru a Chomisiynydd Pobl Hŷn Cymru yn ateb y cwestiynau canlynol ar yr adroddiad:

Yn amlwg, mae heriau ariannol ynghlwm â darparu’r gwasanaethau hyn, beth all llywodraeth leol ei wneud i sicrhau fod gwasanaethau ar gael i’r rheiny sydd eu hangen arnynt fwyaf?

Yn sgil canfyddiadau adroddiad heddiw, pa argymhellion fyddech chi’n eu cyflwyno i gynghorau ac i Lywodraeth Cymru er mwyn helpu i wella’r gwasanaethau maent yn eu cynnig i bobl hŷn yng Nghymru?

Huw Vaughan Thomas, Archwilydd Cyffredinol Cymru

Imelda Richardson, Prif Arolygydd, Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru

Sarah Rochira, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru

 

Os hoffech chi weld copi o’r adroddiad fe allwch chi wneud hynny drwy wefan Swyddfa Archwilio Cymru

Rhoi cydweithio ar waith

Mae adroddiad ar y cyd ar annibyniaeth pobl hŷn, a gyhoeddwyd heddiw, yn esiampl wych o’r ffordd mae Rhaglen Arolygu Cymru yn datblygu ei dulliau o gydweithio.

Fe gynhaliwyd yr astudiaeth hon gan Swyddfa Archwilio Cymru ac Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru, sy’n rhan o Arolygu Cymru, ynghyd â Chomisiynydd Pobl Hŷn Cymru.

Yn y blog hwn, mae cynrychiolwyr o bob un o’r tri sefydliad yn amlinellu’r manteision o weithio gyda’i gilydd ar yr adroddiad hwn a sut mae cydweithio yn eu helpu nhw i gyflawni gwell allbynnau.

Huw Vaughan Thomas, Archwilydd Cyffredinol Cymru

Auditor General for Wales

Cydweithio. Mae pawb yn son amdano a’r buddion sydd i’w cael o’i wneud. Fe fyddwch chi’n gyfarwydd â’r darlun. Defnydd gwell o adnoddau, y gallu i ddwyn ar wybodaeth ehangach, gwybodaeth arbenigol, profiad helaethach sy’n arwain at well dealltwriaeth, ac yn ymarferol hefyd – mae dau ben yn well nag un wrth fynd i’r afael â thasg anodd. Fel cysyniad, mae’n anodd dadlau yn ei erbyn, ond gall fod yn anodd iawn i’w wneud, serch hynny. Mae angen cydbwyso arddulliau gweithio gwahanol, disgwyliadau gwahanol ac amcanion gwahanol os yw am lwyddo. Mae’n helpu hefyd os ydych chi’n dod ymlaen ac os yw’r naill a’r llall yn hoff o’i gilydd.

Wrth feddwl am y manteision ac anfanteision o gydweithio, rwy’n falch o ddweud fod astudiaeth Swyddfa Archwilio Cymru ar annibyniaeth barhaus pobl hŷn, a gyhoeddwyd ar 15 Hydref 2015, wedi ei seilio ar brofiad o gydweithio’n effeithiol. Ein cydweithwyr yn Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru a Swyddfa Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru fu’n cynorthwyo’r Archwilydd Cyffredinol wrth gyflawni’r astudiaeth hon, a hynny mewn modd cadarnhaol.

Yn sgil y gefnogaeth a ddarparwyd, y cyngor a dderbyniwyd, yn ogystal â’r holl gymorth o ran siapio’r fethodoleg, cyflawni gwaith maes, dosbarthu arolygon, hyrwyddo’r gwaith ac adolygu’r darganfyddiadau, cafwyd adolygiad cynhwysfawr wnaeth arwain at ddarlun manwl o’r ffordd mae cynghorau yn helpu pobl hŷn i fyw’n annibynnol. Oni bai am frwdfrydedd a pharodrwydd AGGCC a’r Comisiynydd i gefnogi’r gwaith yma, ni fyddai cwmpas nac effaith yr astudiaeth wedi bod mor gynhwysfawr. Mae un peth yn sicr, mae buddion cydweithio yn amlwg i bawb ac yn rhywbeth y mae angen i ni barhau i weithio arno, ac yn rhywbeth y gallwn ni – ac sydd angen i ni – wneud mwy ohono.

Imelda Richardson, Prif Arolygydd, Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru

Imelda Richardson

Rydym yn cydweithio gyda’r arolygiaethau eraill yng Nghymru ac rydym yn falch o gefnogi dull o weithio ar y cyd, fel a ddangoswyd gennym trwy gydweithio gydag Estyn i greu fframwaith arolygu ar y cyd ar gyfer gwasanaethau blynyddoedd cynnar. Mae gennym nifer o gytundebau o ran sut yr ydym yn gweithio gyda chyrff rheoleiddio ac arolygiaethau eraill ac awdurdodau lleol sy’n rhan o wella ansawdd gofal cymdeithasol a gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru.

Ar gyfer yr adroddiad hwn roeddem yn gallu rhannu gwybodaeth o’n gweithgarwch arolygu ym mhob un o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru, a chydweithio gyda phartneriaid i ganolbwyntio’n well ar les ein poblogaeth hŷn. Roeddem yn hapus i gyflawni rôl gefnogol ar gyfer yr adroddiad hwn a rhannu ein gwybodaeth a’n profiad mewn perthynas ag anghenion pobl hŷn.

Mae ein gwaith yn rhan bwysig o’r sector gofal cymdeithasol yng Nghymru, ac mae cydweithio yn ein galluogi i fod yn llais cryfach dros wella gofal ar gyfer pobl yng Nghymru na phe baem yn gweithredu ar wahân.

Mae derbyn syniadau ynghylch arfer gorau a chymryd golwg drawsbynciol ar draws maes gofal cymdeithasol yn ein galluogi i wella ein hymarfer ni ein hunain a rhannu syniadau’n fwy eang ar draws sefydliadau eraill, ac ni all hyn ond cael effaith gadarnhaol ar y bobl yng Nghymru sy’n dibynnu ar ofal cymdeithasol neu sy’n helpu i’w gefnogi yn y wlad hon.

Edrychaf ymlaen at waith pellach ar y cyd gyda sefydliadau partner dros y blynyddoedd sydd i ddod.

Sarah Rochira, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru

Sarah Rochira

Fel y Comisiynydd Pobl Hŷn, rwyf wedi croesawu’r cyfle i weithio gyda Swyddfa Archwilio Cymru (SAC) a phartneriaid eraill i gynhyrchu’r adroddiad hwn. Mae’r adroddiad yn dilyn fy nghyfranogiad i yn Seminarau Dysgu ar y Cyd SAC ym mis Gorffennaf 2015 , ac rwy’n falch bod y gwaith hwn wedi cryfhau cysylltiadau â’r Archwilydd Cyffredinol a chydweithwyr. Mae angen cydweithio ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru fwy nag erioed, ac rwy’n falch bod SAC ac eraill yn atgyfnerthu fy natganiadau allweddol ac yn cydnabod pwysigrwydd cynnal annibyniaeth pobl hŷn.

O ystyried y rhagolygon ariannol anodd, mae’n rhaid i ddarparwyr gwasanaethau yng Nghymru gydweithio yn awr i ddarparu gwasanaethau o safon uchel sy’n adlewyrchu anghenion pobl hŷn. Nid yw anghenion pobl hŷn yn gyfyngedig i wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, ac mae’n rhaid i ddarparwyr yn y sectorau trafnidiaeth, addysg, tai a hamdden, er enghraifft, ddarparu gwasanaethau cost-effeithiol sy’n helpu i gynnal annibyniaeth pobl hŷn.

Mae taer angen dull cydweithredol, cydgysylltiedig a hirdymor yn awr, a hwnnw’n seiliedig ar yr agendâu integreiddio ac atal, er mwyn dileu rhwystrau allweddol a chynnal iechyd a lles pobl hŷn. Mae cydweithio’n hanfodol i fynd ar drywydd y nodau llesiant cenedlaethol o fewn Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a hefyd y nodau o fewn y Rhaglen Heneiddio’n Dda yng Nghymru.

Rwy’n edrych ymlaen at gydweithio ymhellach gyda SAC a phartneriaid eraill i egluro pwysigrwydd mabwysiadu dull ataliol ac i sicrhau bod darparwyr gwasanaethau cyhoeddus yn gallu defnyddio’r cyfoeth o wybodaeth a phrofiad sydd gan bobl hŷn mewn ffordd well, cynyddu eu cyfraniad i gymunedau ledled Cymru a helpu pobl hŷn ledled Cymru i gynnal eu hiechyd a’u lles.

Os hoffech chi ddod i wybod mwy am yr adroddiad ‘Helpu Pobl Hŷn i Fyw’n Annibynnol: A yw Cynghorau’n Gwneud Digon?’ fe allwch ei lawr lwytho o wefan Swyddfa Archwilio Cymru.