Partneriaid Arolygu Cymru yn dechrau gwaith ar y cyd ar gymorth i bobl ifanc

Efallai mai pobl ifanc yn y DU heddiw fydd y genhedlaeth gyntaf erioed i gael enillion oes is na’u rhieni a’u neiniau a theidiau. Mae’r cyfryngau’n llawn straeon am bobl ifanc sy’n ei chael hi’n anodd cael lle ar yr ysgolion eiddo a gyrfa ac, ar ôl y bleidlais i adael yr Undeb Ewropeaidd, mae rhai pobl yn holi a oes rhaniad rhwng cenedlaethau’r ifanc a’r hen [agorir mewn ffenest newydd]. Yn ddiweddar, dywedodd y BBC fod cynnydd mewn disgwyliad oes o enedigaeth yn arafu [agorir mewn ffenest newydd].

Mae cyni, polisi cyllidol, a phwysau poblogaeth sy’n heneiddio i gyd wedi eu beio hyd yn hyn, ond mae’r materion sy’n effeithio ar gyfleoedd bywyd y genhedlaeth iau’n gymhleth. Mae gwaith diddorol yn cael ei wneud gan Gomisiwn Pontio’r Cenedlaethau i weld a yw oedolion ifanc heddiw yn waeth eu byd [agorir mewn ffenest newydd] ac, os ydynt – pam? Mae’r Comisiwn yn banel o arbenigwyr a gynhelir gan y felin drafod annibynnol Resolution Foundation. Bydd y Comisiwn yn cyhoeddi adroddiad terfynol yn 2018 gyda chyfres o argymhellion i Lywodraeth y DU fynd i’r afael ag anghydbwysedd rhwng y cenedlaethau.

Mae gan bobl ifanc anghenion penodol ac mae angen cymorth ychwanegol ar rai wrth iddynt dyfu’n oedolion. Mae deall a bodloni anghenion pobl ifanc ar yr un pryd â gwasanaethu’r boblogaeth ehangach yn cynnig her i lunwyr polisi. Mae rhai meysydd polisi, fel addysg orfodol, wedi’u cynllunio ar sail plant a phobl ifanc, ond sut gellir sicrhau bod pethau fel tai, iechyd a pholisi economaidd yn gweithio iddynt? Yr her i’r llywodraeth yw cael strategaeth gydlynol i wella bywydau pobl ifanc sy’n ymwneud â phob maes polisi a all wneud gwahaniaeth. Hefyd, mae angen ffyrdd effeithiol ar y llywodraeth o ddarparu gwasanaethau i bobl ifanc sy’n dod â’r bobl iawn ynghyd, ar yr adeg iawn, yn y ffordd iawn i bobl ifanc.

Dros y 18 mis nesaf yn fras, bydd partneriaid Arolygu Cymru yn cwblhau’r adolygiad thematig cenedlaethol cyntaf ar y cyd, a fydd yn ystyried gwasanaethau i bobl ifanc. Nid yw cwmpas gwaith Swyddfa Archwilio Cymru wedi’i gadarnhau eto, ond mae diddordeb gan dîm yr astudiaeth ar hyn o bryd yn y ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn datblygu strategaethau i ddiwallu anghenion pobl ifanc 11 i 25 oed.  Mae diddordeb gan y tîm hefyd mewn deall sut mae’r darlun yn edrych i bobl ifanc yng Nghymru: Pwy ydynt? Ble maent yn byw? Beth maent yn ei wneud? Beth sydd ei angen arnynt? Beth yw darlun eu lles cyffredinol a sut mae hynny’n newid gyda threigl amser?

Ar ben hynny, mae Estyn eisoes wedi dechrau ei gylch cyntaf o waith maes sy’n ystyried gwasanaethau ieuenctid awdurdodau lleol a’r sector gwirfoddol. Bydd yn cwblhau rhagor o waith maes yn yr hydref. Mae ei waith yn edrych yn arbennig ar effeithiolrwydd partneriaethau lleol, gan gynnwys cyfraniad Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus, wrth sicrhau gwasanaethau cymorth ieuenctid digonol a phenodol cyffredinol o ansawdd uchel. Bydd gwaith Estyn hefyd yn cofnodi barn pobl ifanc am y gwasanaethau ieuenctid maent yn eu defnyddio, a bydd yn cynnwys asesiad o sut mae anghenion Cymraeg pobl ifanc yn cael eu diwallu.

Gall y pontio rhwng gwasanaethau i blant a gwasanaethau i oedolion fod yn eithriadol o heriol i bobl ifanc, eu teuluoedd ac i weithwyr proffesiynol. Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) wedi penderfynu ymchwilio i’r gofal a ddarperir i bobl ifanc sy’n pontio o wasanaethau pediatrig i wasanaethau i oedolion. Bydd y gwaith yn ymchwilio i weld a yw gofal yn cael ei gynllunio’n effeithiol, a yw pobl ifanc yn cael cymorth priodol a sut y mae’r system yn gweithio gyda’i gilydd er mwyn sicrhau bod pobl ifanc yn cael y gwasanaethau angenrheidiol. Mae Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC) yn bwriadu archwilio’r broses benderfynu ar gyfer plant sy’n derbyn gofal mewn lleoliadau gofal, er nad yw ei chynlluniau wedi’u cwblhau eto.

Bydd y blog hwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am yr adolygiad thematig o gymorth i bobl ifanc wrth iddo fynd rhagddo.

Ynglŷn â’r awdur

Llun o'r awdur, Emma GilesCymerodd Dr Emma Giles drosodd fel Rheolwr Rhaglen Arolygu Cymru ym mis Mawrth 2017. Cyn hyn, roedd Emma yn arweinydd archwilio perfformiad gyda Swyddfa Archwilio Cymru.

Mae Emma yn hoff iawn o weithgareddau awyr agored, yn cynnwys beicio mynydd a cherdded. Mae ganddi ddoethuriaeth mewn Troseddeg, a oedd yn edrych ar sut roedd troseddwyr a staff cyfiawnder troseddol yn deall tegwch, a beth roedd y gwahanol safbwyntiau hyn ynghylch tegwch yn golygu ar gyfer y perthynas rhwng staff a throseddwyr.

Sgyrsiau o Sioe Frenhinol Cymru 2017

Am yr ail flwyddyn yn olynol, rhannodd partneriaid Arolygu Cymru (Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru, Estyn, Swyddfa Archwilio Cymru ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru) stondin yn Sioe Frenhinol Cymru, er mwyn cael cyfle i siarad â’r cyhoedd am ein gwaith ar y cyd a’n gwaith a rennir ac er mwyn casglu barn y cyhoedd am ansawdd gwasanaethau gwledig ar gyfer adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru yn y dyfodol.

Es i ddydd Llun, diwrnod cyntaf y sioe, a chefais nifer o sgyrsiau diddorol ag aelodau’r cyhoedd am waith partneriaid Arolygu Cymru. Wrth ddarllen y blog hwn, cofiwch ei fod yn cynrychioli fy nghyfrif i o’r hyn a ddywedwyd wrthyf. Nid wyf wedi gwirio ffeithiau’r hyn a ddywedodd y rhai a fu’n sgwrsio â mi. Yn lle, rwyf wedi ceisio rhoi’r materion a godwyd ganddynt mewn cyd-destun ehangach a dangos sut y maent yn ymwneud â gwaith partneriaid Arolygu Cymru.

Roedd un o’m sgyrsiau cyntaf â dyn a siaradodd â mi am gynlluniau i adfywio canol tref Merthyr o gwmpas Pont-y-Cafnau, sy’n adnabyddus fel y bont haearn hynaf yn y byd [agorir mewn ffenest newydd]. Iddo ef, roedd diwedd cyllid yr Undeb Ewropeaidd i Gymru oherwydd Brexit yn bryder mawr, gan fod hynny’n golygu diwedd ffynhonnell gyllid bosibl ar gyfer y fath brosiectau adfywio.

Mae’n amlwg bod Brexit yn her i Lywodraeth Cymru yn y dyfodol. O dan y cylch presennol o gyllid strwythurol yr UE, bydd Cymru yn elwa ar £2 biliwn o gyllid uniongyrchol a, chydag arian cyfatebol, yn ôl Llywodraeth Cymru [agorir mewn ffenest newydd], dylai arwain at dros £3 biliwn o fuddsoddiad. Mae Sefydliad Polisi Cyhoeddus Cymru yn canfod bod Cymru wedi bod yn fuddiolwr net o gyllid strwythurol yr UE [agorir mewn ffenest newydd] a bod Cymru yn derbyn llawer mwy o arian yr UE y pen na gwledydd eraill y DU.

Ym mis Medi 2016, adroddodd Swyddfa Archwilio Cymru fod Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyflwyno cynnig am £125 miliwn o gyllid yr UE [agorir mewn ffenest newydd] ar gyfer elfennau o gynllun trafnidiaeth Metro De Cymru [agorir mewn ffenest newydd], yr amcangyfrifir mai cyfanswm y gost fydd oddeutu £734 miliwn. Canfu adroddiad Pwyllgor Economi, Seilwaith a Sgiliau mis Mehefin 2017 [agorir mewn ffenest newydd] ar y fasnachfraint rheilffyrdd a Metro De Cymru fod Brexit wedi codi amheuaeth am gyfraniad arfaethedig yr UE, ac ‘er bod Llywodraeth y DU wedi cynnig sicrwydd y bydd yn anrhydeddu unrhyw ymrwymiadau cyllid cytûn yr UE hyd at 2020, mae’n amhosibl dadlau bod yr arian hwnnw’n ddiogel’.

Siaradodd yr un dyn hefyd am yr ‘honiadau gwyllt’ yn ei farn ef a wnaed am effaith economaidd bosibl trac rasio arfaethedig Cylchffordd Cymru; mae’n bosibl bod ei ddiddordeb yn ymwneud â’r agosrwydd rhwng ei gartref ei hun ym Merthyr a lleoliad arfaethedig y gylchffordd yng Nglynebwy. Roeddwn yn gallu rhoi copi iddo o adroddiad diweddar Swyddfa Archwilio Cymru ar benderfyniad Llywodraeth Cymru i ddarparu dros £9.3 miliwn i gefnogi camau datblygu cychwynnol prosiect Cylchffordd Cymru [agorir mewn ffenest newydd].

Ar yr un thema, sef Buddsoddiad Llywodraeth Cymru mewn busnes, siaradais â nifer o bobl o Ogledd Cymru am archwiliad Swyddfa Archwilio Cymru mis Ebrill 2014 o gyllid cyhoeddus a chau canolfan treftadaeth, bywyd gwledig a cherflunwaith Cywain yn y Bala [agorir mewn ffenest newydd]. Ar adeg cyhoeddi, roedd y ganolfan a’i holl gyfleusterau ar gau. Fodd bynnag, dywedwyd wrthyf fod caffi bellach yn gweithredu ar y safle.

Archwilwyr perfformiad o Swyddfa Archwilio Cymru yn holi'r cyhoedd ynglŷn a gwasanaethau gwledig yn y Sioe eleni
Archwilwyr perfformiad o Swyddfa Archwilio Cymru yn holi’r cyhoedd ynglŷn a gwasanaethau gwledig yn y Sioe eleni

Cefais nifer o sgyrsiau hefyd â phobl a ddywedodd wrthyf eu bod wedi defnyddio adroddiadau arolygiadau gan Estyn ac Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru er mwyn penderfynu pa ysgolion a chartrefi gofal y dylent eu defnyddio ar gyfer aelodau o’r teulu. Yn bersonol, roedd yn braf cael siarad â phobl a oedd yn defnyddio gwaith partneriaid Arolygu Cymru i’w helpu i wneud penderfyniadau hyddysg am ddyfodol eu teuluoedd. Siaradais â phobl hefyd am eu profiadau o ofal iechyd yng Nghymru a dywedais wrthynt am rôl Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru wrth reoleiddio ac arolygu gwasanaethau gofal iechyd.

Er nad yw Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yn ymchwilio’n rheolaidd i gwynion na phryderon unigol, mae’n bosibl bod gan ddarllenwyr ddiddordeb i wybod yr hoffai glywed am bryderon o hyd a’i bod yn monitro’r holl gwynion a geir [agorir mewn ffenest newydd]. Mae’n defnyddio gwybodaeth am gwynion fel ffordd o greu darlun o ddiogelwch ac ansawdd cyffredinol gwasanaethau gofal iechyd.

Ynglŷn â’r awdur

Llun o'r awdur, Emma GilesCymerodd Dr Emma Giles drosodd fel Rheolwr Rhaglen Arolygu Cymru ym mis Mawrth 2017. Cyn hyn, roedd Emma yn arweinydd archwilio perfformiad gyda Swyddfa Archwilio Cymru.

Mae Emma yn hoff iawn o weithgareddau awyr agored, yn cynnwys beicio mynydd a cherdded. Mae ganddi ddoethuriaeth mewn Troseddeg, a oedd yn edrych ar sut roedd troseddwyr a staff cyfiawnder troseddol yn deall tegwch, a beth roedd y gwahanol safbwyntiau hyn ynghylch tegwch yn golygu ar gyfer y perthynas rhwng staff a throseddwyr.

Cydweithio i gyflawni adolygiad ar y cyd o drefniadau llywodraethu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr 2017

Mae Swyddfa Archwilio Cymru ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) wedi cwblhau eu pedwerydd adolygiad ar y cyd o drefniadau llywodraethu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, ar 29 Mehefin 2017.

Clawr yr adroddiadDaethant i’r casgliad fod angen gwneud llawer o hyd, er bod y Bwrdd Iechyd ar y trywydd iawn. Gellir ddarllen yr adroddiad ar wefan Swyddfa Archwilio Cymru [agorir mewn ffenest newydd] ac ar wefan AGIC [agorir mewn ffenest newydd].

Fodd bynnag, nid diben y blog hwn yw canolbwyntio ar y casgliadau y daethpwyd iddynt. Yn hytrach,  mae’n seiliedig ar drafodaethau yr wyf i wedi’u cael ag aelodau’r tîm adolygu. Diben y blog yw myfyrio ar eu profiadau, a thrwy wneud hynny, amlygu manteision cydweithredu a nodi rhai ffactorau a gyfrannodd at weithio ar y cyd yn llwyddiannus a rhai o’r heriau posibl. Efallai nad yw’r hyn sy’n dilyn yn astrus iawn, ond rwy’n gobeithio y bydd y safbwynt gwahanol hwn ar archwilio ac arolygu yn ddiddorol i chi.

Cafwyd gwerth ychwanegol o gydweithio mewn nifer o ffyrdd, yn arbennig wrth gyfleu i’r Bwrdd Iechyd ddifrifoldeb yr heriau y mae’n eu hwynebu

O ran aelodau’r tîm adolygu, mae’r weithred o gael Swyddfa Archwilio Cymru ac AGIC at ei gilydd i gynnal yr adolygiad ar y cyd yn bwysig oherwydd ei fod yn rhoi neges glir i’r Bwrdd Iechyd a’i bartneriaid a’i randdeiliaid o ddifrifoldeb y pryderon am drefniadau llywodraethu yn y Bwrdd Iechyd.

Caiff y neges ei hatgyfnerthu gan mai’r adolygiad ar 29 Mehefin 2017 oedd y pedwerydd mewn cyfres o waith ar y cyd a wnaed ers 2012. Yn ystod y cyfnod hwnnw, mae’r adolygiadau ar y cyd o Betsi Cadwaladr gan AGIC a Swyddfa Archwilio Cymru wedi eu sefydlu yn gofnodion awdurdodedig o’r cynnydd a wnaed gan y Bwrdd Iechyd o ran mynd i’r afael â’r heriau mae’n eu hwynebu.

Dylai pwyslais y neges ac awdurdod yr adroddiad gynyddu’r tebygolrwydd y bydd y Bwrdd Iechyd yn cymryd camau yn y meysydd sy’n dal i beri pryder. Mae hyn yn cynnwys y pryder nad yw’r Bwrdd Iechyd wedi datblygu cynllun clir ar gyfer sut y dylid ail-lunio gwasanaethau clinigol yng Ngogledd Cymru i sicrhau eu bod yn hyfyw yn glinigol ac yn ariannol.

Trwy ddefnyddio sgiliau a phrofiadau perthnasol staff AGIC a Swyddfa Archwilio Cymru, crëwyd persbectif mwy cynhwysfawr o’r system gyfan o ran sut y mae prosesau’r Bwrdd Iechyd yn gweithio o brofiadau’r claf i fyny. Yn fras, cyfrannodd staff Swyddfa Archwilio Cymru arbenigedd a gwybodaeth am faterion ariannol a llywodraethu, a chyfrannodd staff AGIC wybodaeth am ofal a diogelwch cleifion.

‘Mae’n swnio’n ystrydebol, ond mae cydweithio llwyddiannus yn dechrau gyda pharodrwydd i gydweithio a thrwy gydnabod arbenigedd a sgiliau pobl eraill’

Yr unig her a nodwyd oedd diffyg man cyfrannol i gadw gwybodaeth, gan arwain at y rheidrwydd i rannu gwybodaeth drwy e-bost. Felly beth, yn ôl y tîm adolygu, oedd yn gyfrifol am lwyddiant y prosiect? A pha gyngor y byddai’n ei roi i eraill sy’n bwriadu gwneud gwaith tebyg ar y cyd? Yn sicr, mae llwyddiant y gwaith hwn i raddau helaeth yn ganlyniad y ffaith mai hwn oedd y pedwerydd darn o waith ar y cyd, ac felly roedd dull sefydledig o gydweithio a dealltwriaeth dda ohono.

Dywedodd un o aelodau’r tîm wrthyf, er ei fod yn swnio braidd yn ystrydebol, fod angen i’r rheini sy’n dechrau gweithio ar y cyd fod yn barod i weithio ag eraill a chydnabod y sgiliau a’r arbenigedd y gall cydweithwyr mewn sefydliadau eraill eu cyfrannu.
Hefyd, dywedwyd bod y llwyddiant yn ymwneud â chadw golwg ar y nod cyffredinol, yn hytrach na bod yn ddogmatig ynglŷn â’r broses. Ar yr un pryd, roedd yn bwysig sicrhau bod trefniadau rheoli’r prosiect wedi’u nodi’n glir, a bod y prosiect wedi’i reoli’n drylwyr i’w gwblhau o fewn yr amserlen y cytunwyd arni. Ymddengys bod cyfathrebu clir a rheolaidd hefyd yn allweddol i lwyddiant y prosiect. Cafodd elfennau allweddol o’r broses eu cyflwyno ar y cyd, megis gwaith maes ac adrodd i fwrdd Betsi Cadwaladr.
Mae hyn yn cysylltu â sylw cynharach a wnaed ynghylch sut mae gweithio ar y cyd wedi helpu i gyfleu difrifoldeb yr heriau i’r Bwrdd Iechyd.

I gloi, cyfeiriodd dau arweinydd y prosiect at gydweithio yn y dyfodol, nid rhwng Swyddfa Archwilio Cymru ac AGIC, ond rhwng AGIC ac Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC) ar dimau iechyd meddwl yn y gymuned. Felly cadwch lygad am yr adroddiad ar y cyd hwnnw y disgwylir ei gyhoeddi ddechrau 2018, ac am flog tebyg i hwn yn sôn am brofiadau tîm adolygu ar y cyd AGIC ac AGGCC.

Ynglŷn â’r awdur

Llun o'r awdur, Emma GilesCymerodd Dr Emma Giles drosodd fel Rheolwr Rhaglen Arolygu Cymru ym mis Mawrth 2017. Cyn hyn, roedd Emma yn arweinydd archwilio perfformiad gyda Swyddfa Archwilio Cymru.

Mae Emma yn hoff iawn o weithgareddau awyr agored, yn cynnwys beicio mynydd a cherdded. Mae ganddi ddoethuriaeth mewn Troseddeg, a oedd yn edrych ar sut roedd troseddwyr a staff cyfiawnder troseddol yn deall tegwch, a beth roedd y gwahanol safbwyntiau hyn ynghylch tegwch yn golygu ar gyfer y perthynas rhwng staff a throseddwyr.