Gweithwyr swyddfa yn eistedd wrth ddesg â gliniadur

Heriau cynnal adolygiad ar y cyd…

Mae un o’r arolygiadau rwyf yn gweithio arnynt ar hyn o bryd yn ymwneud ag iechyd y meddwl. Mae’n brosiect ar y cyd rhwng Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC), sef yr arolygiaeth yr wyf i’n gweithio iddi, ac Arolygiaeth Iechyd Cymru (AIC).

Rydym yn ymchwilio i sut mae Timau Iechyd Cymunedol yn darparu gofal, cefnogaeth a thriniaeth i oedolion sydd â phroblemau iechyd meddwl. Fel rhan o’r adolygiad hwn, rydym yn cynnal ymweliadau arolygu ag un Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol ym mhob un o’r 7 bwrdd iechyd yng Nghymru. Rydym yn cynnal cyfweliadau gydag uwch swyddogion mewn byrddau iechyd ac awdurdodau lleol. Hefyd rydym yn ymgynghori ag amrywiaeth eang o randdeiliaid, gan gynnwys defnyddwyr gwasanaethau a’u gofalwyr/teuluoedd, i glywed eu barn am y gwasanaethau maent yn eu derbyn.

Os oes gennych chi ddiddordeb, gallwch gymryd rhan yn yr adolygiad (agorir mewn ffenest newydd).

Hyd yma rydym wedi cwmpasu, cynllunio a chwblhau pedwar ymweliad arolygu ac mae ein gwaith ar y cyd wedi bod yn gymharol hyd yma, er yn heriol ar adegau.

Mae ein methodoleg Arolygu’n cynnwys cyfuniad o ddulliau arferol AIC ac AGGCC. Rydym wedi wynebu rhai heriau – fel a ddylid cynnal ymweliadau gyda neu heb rybudd; dod i gytundeb ynghylch y defnydd o iaith, h.y. “claf”, “defnyddiwr gwasanaeth” a sut i gasglu tystiolaeth o arolygiadau.

Er hynny, rydym wedi canfod dull, gan gynnwys cynllunio a chreu adnoddau asesu, sy’n galluogi i ni gynnal gwerthusiad cyfannol o ansawdd y gofal, y gefnogaeth a’r driniaeth, yn ogystal â chydymffurfiaeth â deddfwriaeth iechyd meddwl a gofal cymdeithasol.

Arweinir y timau arolygu gan AIC ac maent yn cynnwys nifer cyfartal o adolygwyr AIC ac AGGCC. Mae hyn wedi creu rhai heriau ac wedi tynnu sylw at y gwahaniaethau yn y ffordd rydym yn gweithio. Er enghraifft, ymweliadau cartref â defnyddwyr gwasanaeth/gofalwyr yn erbyn ymweliadau swyddfa; y ffordd rydym yn rheoli pryderon brys; a lefel y manylder i’w gynnwys yn yr adborth rhagarweiniol ar lafar.

Er hynny, rydym wedi cytuno ar ddull ar y cyd ac wedi creu timau arolygu cymysg. Mae hyn wedi helpu gyda sicrhau cydbwysedd da o dystiolaeth, drwy drafodaeth fywiog am yr achosion a adolygir a’r staff, y defnyddwyr gwasanaeth a’r gofalwyr rydym wedi’u cyfweld. Hefyd, mae canlyniad positif iawn, sef ein bod, yn broffesiynol, wedi dysgu llawer oddi wrth ein gilydd.

Er ei bod yn ddyddiau cynnar – nid ydym wedi cwblhau adroddiad yr arolwg yn llawn eto – o’m profiad personol i’n cymryd rhan mewn dau ymweliad arolygu, rwyf i’n credu bod ein dull ni o weithio ar y cyd eisoes yn creu gwerthusiad cyffredinol o’r gwasanaethau, sy’n gweithio’n well wrth i bawb gydweithio. Rwyf i’n hyderus iawn y bydd hyn yn cael ei adlewyrchu yn y pen draw yn ein hadroddiad cenedlaethol cyffredinol ar y cyd a gaiff ei gyhoeddi y flwyddyn nesaf.

Am yr awdur

Bobbi JonesMae Bobbie Jones wedi gweithio fel arolygydd i AGGCC gyda’r awdurdod lleol ers 2013. Cyn hyn, gweithiai Bobbie fel arolygydd gydag Arolygiaeth Prawf Ei Mawrhydi ar ôl treulio gyrfa o fwy nag 20 mlynedd yn y Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol.

Cymhwysodd Bobbie fel gweithiwr cymdeithasol yn 1991 ac, ers hynny, mae wedi cwblhau gradd Meistr ym Mhrifysgol Caergrawnt mewn Troseddeg, Penydeg a Rheoli.

Mae Bobbie’n mwynhau garddio, ymlacio gyda llyfr da a chwarae gyda’i hwyrion a’i hwyresau.

Partneriaid Arolygu Cymru yn dechrau gwaith ar y cyd ar gymorth i bobl ifanc

Efallai mai pobl ifanc yn y DU heddiw fydd y genhedlaeth gyntaf erioed i gael enillion oes is na’u rhieni a’u neiniau a theidiau. Mae’r cyfryngau’n llawn straeon am bobl ifanc sy’n ei chael hi’n anodd cael lle ar yr ysgolion eiddo a gyrfa ac, ar ôl y bleidlais i adael yr Undeb Ewropeaidd, mae rhai pobl yn holi a oes rhaniad rhwng cenedlaethau’r ifanc a’r hen [agorir mewn ffenest newydd]. Yn ddiweddar, dywedodd y BBC fod cynnydd mewn disgwyliad oes o enedigaeth yn arafu [agorir mewn ffenest newydd].

Mae cyni, polisi cyllidol, a phwysau poblogaeth sy’n heneiddio i gyd wedi eu beio hyd yn hyn, ond mae’r materion sy’n effeithio ar gyfleoedd bywyd y genhedlaeth iau’n gymhleth. Mae gwaith diddorol yn cael ei wneud gan Gomisiwn Pontio’r Cenedlaethau i weld a yw oedolion ifanc heddiw yn waeth eu byd [agorir mewn ffenest newydd] ac, os ydynt – pam? Mae’r Comisiwn yn banel o arbenigwyr a gynhelir gan y felin drafod annibynnol Resolution Foundation. Bydd y Comisiwn yn cyhoeddi adroddiad terfynol yn 2018 gyda chyfres o argymhellion i Lywodraeth y DU fynd i’r afael ag anghydbwysedd rhwng y cenedlaethau.

Mae gan bobl ifanc anghenion penodol ac mae angen cymorth ychwanegol ar rai wrth iddynt dyfu’n oedolion. Mae deall a bodloni anghenion pobl ifanc ar yr un pryd â gwasanaethu’r boblogaeth ehangach yn cynnig her i lunwyr polisi. Mae rhai meysydd polisi, fel addysg orfodol, wedi’u cynllunio ar sail plant a phobl ifanc, ond sut gellir sicrhau bod pethau fel tai, iechyd a pholisi economaidd yn gweithio iddynt? Yr her i’r llywodraeth yw cael strategaeth gydlynol i wella bywydau pobl ifanc sy’n ymwneud â phob maes polisi a all wneud gwahaniaeth. Hefyd, mae angen ffyrdd effeithiol ar y llywodraeth o ddarparu gwasanaethau i bobl ifanc sy’n dod â’r bobl iawn ynghyd, ar yr adeg iawn, yn y ffordd iawn i bobl ifanc.

Dros y 18 mis nesaf yn fras, bydd partneriaid Arolygu Cymru yn cwblhau’r adolygiad thematig cenedlaethol cyntaf ar y cyd, a fydd yn ystyried gwasanaethau i bobl ifanc. Nid yw cwmpas gwaith Swyddfa Archwilio Cymru wedi’i gadarnhau eto, ond mae diddordeb gan dîm yr astudiaeth ar hyn o bryd yn y ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn datblygu strategaethau i ddiwallu anghenion pobl ifanc 11 i 25 oed.  Mae diddordeb gan y tîm hefyd mewn deall sut mae’r darlun yn edrych i bobl ifanc yng Nghymru: Pwy ydynt? Ble maent yn byw? Beth maent yn ei wneud? Beth sydd ei angen arnynt? Beth yw darlun eu lles cyffredinol a sut mae hynny’n newid gyda threigl amser?

Ar ben hynny, mae Estyn eisoes wedi dechrau ei gylch cyntaf o waith maes sy’n ystyried gwasanaethau ieuenctid awdurdodau lleol a’r sector gwirfoddol. Bydd yn cwblhau rhagor o waith maes yn yr hydref. Mae ei waith yn edrych yn arbennig ar effeithiolrwydd partneriaethau lleol, gan gynnwys cyfraniad Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus, wrth sicrhau gwasanaethau cymorth ieuenctid digonol a phenodol cyffredinol o ansawdd uchel. Bydd gwaith Estyn hefyd yn cofnodi barn pobl ifanc am y gwasanaethau ieuenctid maent yn eu defnyddio, a bydd yn cynnwys asesiad o sut mae anghenion Cymraeg pobl ifanc yn cael eu diwallu.

Gall y pontio rhwng gwasanaethau i blant a gwasanaethau i oedolion fod yn eithriadol o heriol i bobl ifanc, eu teuluoedd ac i weithwyr proffesiynol. Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) wedi penderfynu ymchwilio i’r gofal a ddarperir i bobl ifanc sy’n pontio o wasanaethau pediatrig i wasanaethau i oedolion. Bydd y gwaith yn ymchwilio i weld a yw gofal yn cael ei gynllunio’n effeithiol, a yw pobl ifanc yn cael cymorth priodol a sut y mae’r system yn gweithio gyda’i gilydd er mwyn sicrhau bod pobl ifanc yn cael y gwasanaethau angenrheidiol. Mae Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC) yn bwriadu archwilio’r broses benderfynu ar gyfer plant sy’n derbyn gofal mewn lleoliadau gofal, er nad yw ei chynlluniau wedi’u cwblhau eto.

Bydd y blog hwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am yr adolygiad thematig o gymorth i bobl ifanc wrth iddo fynd rhagddo.

Ynglŷn â’r awdur

Llun o'r awdur, Emma GilesCymerodd Dr Emma Giles drosodd fel Rheolwr Rhaglen Arolygu Cymru ym mis Mawrth 2017. Cyn hyn, roedd Emma yn arweinydd archwilio perfformiad gyda Swyddfa Archwilio Cymru.

Mae Emma yn hoff iawn o weithgareddau awyr agored, yn cynnwys beicio mynydd a cherdded. Mae ganddi ddoethuriaeth mewn Troseddeg, a oedd yn edrych ar sut roedd troseddwyr a staff cyfiawnder troseddol yn deall tegwch, a beth roedd y gwahanol safbwyntiau hyn ynghylch tegwch yn golygu ar gyfer y perthynas rhwng staff a throseddwyr.

Sgyrsiau o Sioe Frenhinol Cymru 2017

Am yr ail flwyddyn yn olynol, rhannodd partneriaid Arolygu Cymru (Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru, Estyn, Swyddfa Archwilio Cymru ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru) stondin yn Sioe Frenhinol Cymru, er mwyn cael cyfle i siarad â’r cyhoedd am ein gwaith ar y cyd a’n gwaith a rennir ac er mwyn casglu barn y cyhoedd am ansawdd gwasanaethau gwledig ar gyfer adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru yn y dyfodol.

Es i ddydd Llun, diwrnod cyntaf y sioe, a chefais nifer o sgyrsiau diddorol ag aelodau’r cyhoedd am waith partneriaid Arolygu Cymru. Wrth ddarllen y blog hwn, cofiwch ei fod yn cynrychioli fy nghyfrif i o’r hyn a ddywedwyd wrthyf. Nid wyf wedi gwirio ffeithiau’r hyn a ddywedodd y rhai a fu’n sgwrsio â mi. Yn lle, rwyf wedi ceisio rhoi’r materion a godwyd ganddynt mewn cyd-destun ehangach a dangos sut y maent yn ymwneud â gwaith partneriaid Arolygu Cymru.

Roedd un o’m sgyrsiau cyntaf â dyn a siaradodd â mi am gynlluniau i adfywio canol tref Merthyr o gwmpas Pont-y-Cafnau, sy’n adnabyddus fel y bont haearn hynaf yn y byd [agorir mewn ffenest newydd]. Iddo ef, roedd diwedd cyllid yr Undeb Ewropeaidd i Gymru oherwydd Brexit yn bryder mawr, gan fod hynny’n golygu diwedd ffynhonnell gyllid bosibl ar gyfer y fath brosiectau adfywio.

Mae’n amlwg bod Brexit yn her i Lywodraeth Cymru yn y dyfodol. O dan y cylch presennol o gyllid strwythurol yr UE, bydd Cymru yn elwa ar £2 biliwn o gyllid uniongyrchol a, chydag arian cyfatebol, yn ôl Llywodraeth Cymru [agorir mewn ffenest newydd], dylai arwain at dros £3 biliwn o fuddsoddiad. Mae Sefydliad Polisi Cyhoeddus Cymru yn canfod bod Cymru wedi bod yn fuddiolwr net o gyllid strwythurol yr UE [agorir mewn ffenest newydd] a bod Cymru yn derbyn llawer mwy o arian yr UE y pen na gwledydd eraill y DU.

Ym mis Medi 2016, adroddodd Swyddfa Archwilio Cymru fod Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyflwyno cynnig am £125 miliwn o gyllid yr UE [agorir mewn ffenest newydd] ar gyfer elfennau o gynllun trafnidiaeth Metro De Cymru [agorir mewn ffenest newydd], yr amcangyfrifir mai cyfanswm y gost fydd oddeutu £734 miliwn. Canfu adroddiad Pwyllgor Economi, Seilwaith a Sgiliau mis Mehefin 2017 [agorir mewn ffenest newydd] ar y fasnachfraint rheilffyrdd a Metro De Cymru fod Brexit wedi codi amheuaeth am gyfraniad arfaethedig yr UE, ac ‘er bod Llywodraeth y DU wedi cynnig sicrwydd y bydd yn anrhydeddu unrhyw ymrwymiadau cyllid cytûn yr UE hyd at 2020, mae’n amhosibl dadlau bod yr arian hwnnw’n ddiogel’.

Siaradodd yr un dyn hefyd am yr ‘honiadau gwyllt’ yn ei farn ef a wnaed am effaith economaidd bosibl trac rasio arfaethedig Cylchffordd Cymru; mae’n bosibl bod ei ddiddordeb yn ymwneud â’r agosrwydd rhwng ei gartref ei hun ym Merthyr a lleoliad arfaethedig y gylchffordd yng Nglynebwy. Roeddwn yn gallu rhoi copi iddo o adroddiad diweddar Swyddfa Archwilio Cymru ar benderfyniad Llywodraeth Cymru i ddarparu dros £9.3 miliwn i gefnogi camau datblygu cychwynnol prosiect Cylchffordd Cymru [agorir mewn ffenest newydd].

Ar yr un thema, sef Buddsoddiad Llywodraeth Cymru mewn busnes, siaradais â nifer o bobl o Ogledd Cymru am archwiliad Swyddfa Archwilio Cymru mis Ebrill 2014 o gyllid cyhoeddus a chau canolfan treftadaeth, bywyd gwledig a cherflunwaith Cywain yn y Bala [agorir mewn ffenest newydd]. Ar adeg cyhoeddi, roedd y ganolfan a’i holl gyfleusterau ar gau. Fodd bynnag, dywedwyd wrthyf fod caffi bellach yn gweithredu ar y safle.

Archwilwyr perfformiad o Swyddfa Archwilio Cymru yn holi'r cyhoedd ynglŷn a gwasanaethau gwledig yn y Sioe eleni
Archwilwyr perfformiad o Swyddfa Archwilio Cymru yn holi’r cyhoedd ynglŷn a gwasanaethau gwledig yn y Sioe eleni

Cefais nifer o sgyrsiau hefyd â phobl a ddywedodd wrthyf eu bod wedi defnyddio adroddiadau arolygiadau gan Estyn ac Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru er mwyn penderfynu pa ysgolion a chartrefi gofal y dylent eu defnyddio ar gyfer aelodau o’r teulu. Yn bersonol, roedd yn braf cael siarad â phobl a oedd yn defnyddio gwaith partneriaid Arolygu Cymru i’w helpu i wneud penderfyniadau hyddysg am ddyfodol eu teuluoedd. Siaradais â phobl hefyd am eu profiadau o ofal iechyd yng Nghymru a dywedais wrthynt am rôl Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru wrth reoleiddio ac arolygu gwasanaethau gofal iechyd.

Er nad yw Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yn ymchwilio’n rheolaidd i gwynion na phryderon unigol, mae’n bosibl bod gan ddarllenwyr ddiddordeb i wybod yr hoffai glywed am bryderon o hyd a’i bod yn monitro’r holl gwynion a geir [agorir mewn ffenest newydd]. Mae’n defnyddio gwybodaeth am gwynion fel ffordd o greu darlun o ddiogelwch ac ansawdd cyffredinol gwasanaethau gofal iechyd.

Ynglŷn â’r awdur

Llun o'r awdur, Emma GilesCymerodd Dr Emma Giles drosodd fel Rheolwr Rhaglen Arolygu Cymru ym mis Mawrth 2017. Cyn hyn, roedd Emma yn arweinydd archwilio perfformiad gyda Swyddfa Archwilio Cymru.

Mae Emma yn hoff iawn o weithgareddau awyr agored, yn cynnwys beicio mynydd a cherdded. Mae ganddi ddoethuriaeth mewn Troseddeg, a oedd yn edrych ar sut roedd troseddwyr a staff cyfiawnder troseddol yn deall tegwch, a beth roedd y gwahanol safbwyntiau hyn ynghylch tegwch yn golygu ar gyfer y perthynas rhwng staff a throseddwyr.

Cydweithio i gyflawni adolygiad ar y cyd o drefniadau llywodraethu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr 2017

Mae Swyddfa Archwilio Cymru ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) wedi cwblhau eu pedwerydd adolygiad ar y cyd o drefniadau llywodraethu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, ar 29 Mehefin 2017.

Clawr yr adroddiadDaethant i’r casgliad fod angen gwneud llawer o hyd, er bod y Bwrdd Iechyd ar y trywydd iawn. Gellir ddarllen yr adroddiad ar wefan Swyddfa Archwilio Cymru [agorir mewn ffenest newydd] ac ar wefan AGIC [agorir mewn ffenest newydd].

Fodd bynnag, nid diben y blog hwn yw canolbwyntio ar y casgliadau y daethpwyd iddynt. Yn hytrach,  mae’n seiliedig ar drafodaethau yr wyf i wedi’u cael ag aelodau’r tîm adolygu. Diben y blog yw myfyrio ar eu profiadau, a thrwy wneud hynny, amlygu manteision cydweithredu a nodi rhai ffactorau a gyfrannodd at weithio ar y cyd yn llwyddiannus a rhai o’r heriau posibl. Efallai nad yw’r hyn sy’n dilyn yn astrus iawn, ond rwy’n gobeithio y bydd y safbwynt gwahanol hwn ar archwilio ac arolygu yn ddiddorol i chi.

Cafwyd gwerth ychwanegol o gydweithio mewn nifer o ffyrdd, yn arbennig wrth gyfleu i’r Bwrdd Iechyd ddifrifoldeb yr heriau y mae’n eu hwynebu

O ran aelodau’r tîm adolygu, mae’r weithred o gael Swyddfa Archwilio Cymru ac AGIC at ei gilydd i gynnal yr adolygiad ar y cyd yn bwysig oherwydd ei fod yn rhoi neges glir i’r Bwrdd Iechyd a’i bartneriaid a’i randdeiliaid o ddifrifoldeb y pryderon am drefniadau llywodraethu yn y Bwrdd Iechyd.

Caiff y neges ei hatgyfnerthu gan mai’r adolygiad ar 29 Mehefin 2017 oedd y pedwerydd mewn cyfres o waith ar y cyd a wnaed ers 2012. Yn ystod y cyfnod hwnnw, mae’r adolygiadau ar y cyd o Betsi Cadwaladr gan AGIC a Swyddfa Archwilio Cymru wedi eu sefydlu yn gofnodion awdurdodedig o’r cynnydd a wnaed gan y Bwrdd Iechyd o ran mynd i’r afael â’r heriau mae’n eu hwynebu.

Dylai pwyslais y neges ac awdurdod yr adroddiad gynyddu’r tebygolrwydd y bydd y Bwrdd Iechyd yn cymryd camau yn y meysydd sy’n dal i beri pryder. Mae hyn yn cynnwys y pryder nad yw’r Bwrdd Iechyd wedi datblygu cynllun clir ar gyfer sut y dylid ail-lunio gwasanaethau clinigol yng Ngogledd Cymru i sicrhau eu bod yn hyfyw yn glinigol ac yn ariannol.

Trwy ddefnyddio sgiliau a phrofiadau perthnasol staff AGIC a Swyddfa Archwilio Cymru, crëwyd persbectif mwy cynhwysfawr o’r system gyfan o ran sut y mae prosesau’r Bwrdd Iechyd yn gweithio o brofiadau’r claf i fyny. Yn fras, cyfrannodd staff Swyddfa Archwilio Cymru arbenigedd a gwybodaeth am faterion ariannol a llywodraethu, a chyfrannodd staff AGIC wybodaeth am ofal a diogelwch cleifion.

‘Mae’n swnio’n ystrydebol, ond mae cydweithio llwyddiannus yn dechrau gyda pharodrwydd i gydweithio a thrwy gydnabod arbenigedd a sgiliau pobl eraill’

Yr unig her a nodwyd oedd diffyg man cyfrannol i gadw gwybodaeth, gan arwain at y rheidrwydd i rannu gwybodaeth drwy e-bost. Felly beth, yn ôl y tîm adolygu, oedd yn gyfrifol am lwyddiant y prosiect? A pha gyngor y byddai’n ei roi i eraill sy’n bwriadu gwneud gwaith tebyg ar y cyd? Yn sicr, mae llwyddiant y gwaith hwn i raddau helaeth yn ganlyniad y ffaith mai hwn oedd y pedwerydd darn o waith ar y cyd, ac felly roedd dull sefydledig o gydweithio a dealltwriaeth dda ohono.

Dywedodd un o aelodau’r tîm wrthyf, er ei fod yn swnio braidd yn ystrydebol, fod angen i’r rheini sy’n dechrau gweithio ar y cyd fod yn barod i weithio ag eraill a chydnabod y sgiliau a’r arbenigedd y gall cydweithwyr mewn sefydliadau eraill eu cyfrannu.
Hefyd, dywedwyd bod y llwyddiant yn ymwneud â chadw golwg ar y nod cyffredinol, yn hytrach na bod yn ddogmatig ynglŷn â’r broses. Ar yr un pryd, roedd yn bwysig sicrhau bod trefniadau rheoli’r prosiect wedi’u nodi’n glir, a bod y prosiect wedi’i reoli’n drylwyr i’w gwblhau o fewn yr amserlen y cytunwyd arni. Ymddengys bod cyfathrebu clir a rheolaidd hefyd yn allweddol i lwyddiant y prosiect. Cafodd elfennau allweddol o’r broses eu cyflwyno ar y cyd, megis gwaith maes ac adrodd i fwrdd Betsi Cadwaladr.
Mae hyn yn cysylltu â sylw cynharach a wnaed ynghylch sut mae gweithio ar y cyd wedi helpu i gyfleu difrifoldeb yr heriau i’r Bwrdd Iechyd.

I gloi, cyfeiriodd dau arweinydd y prosiect at gydweithio yn y dyfodol, nid rhwng Swyddfa Archwilio Cymru ac AGIC, ond rhwng AGIC ac Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC) ar dimau iechyd meddwl yn y gymuned. Felly cadwch lygad am yr adroddiad ar y cyd hwnnw y disgwylir ei gyhoeddi ddechrau 2018, ac am flog tebyg i hwn yn sôn am brofiadau tîm adolygu ar y cyd AGIC ac AGGCC.

Ynglŷn â’r awdur

Llun o'r awdur, Emma GilesCymerodd Dr Emma Giles drosodd fel Rheolwr Rhaglen Arolygu Cymru ym mis Mawrth 2017. Cyn hyn, roedd Emma yn arweinydd archwilio perfformiad gyda Swyddfa Archwilio Cymru.

Mae Emma yn hoff iawn o weithgareddau awyr agored, yn cynnwys beicio mynydd a cherdded. Mae ganddi ddoethuriaeth mewn Troseddeg, a oedd yn edrych ar sut roedd troseddwyr a staff cyfiawnder troseddol yn deall tegwch, a beth roedd y gwahanol safbwyntiau hyn ynghylch tegwch yn golygu ar gyfer y perthynas rhwng staff a throseddwyr.

Athro yn dysgu mewn ysgol

Rhaglen Arolygu Cymru yn gwneud cynnydd da

Dywedir weithiau bod adolygwyr allanol fel bysiau; maent i gyd yn ymddangos ar yr un pryd. A’r her i bartneriaid Arolygu Cymru, fel y pedwar prif gorff adolygu allanol yng Nghymru, yw dangos ein bod yn gweithio gyda’n gilydd yn effeithiol i gynllunio a chyflawni ein gwaith. Mae cydweithio o’r fath yn hanfodol er mwyn manteisio i’r eithaf ar ein priod adnoddau cyfyngedig ac ychwanegu’r gwerth mwyaf at gyrff cyhoeddus sy’n cael eu hadolygu a phobl Cymru.

Clawr blaen yr adroddiadRydym wedi cyhoeddi adolygiad o’r cynnydd [agorir mewn ffenest newydd] a wnaed gennym wrth gyflawni ein rhaglen, menter i wella cydweithredu a chydweithio rhwng y pedwar corff adolygu allanol yng Nghymru.

Mae’r enghreifftiau a’r astudiaethau achos a ddisgrifir yn y papur yn dangos i ba raddau mae’r pedwar corff adolygu eisoes yn cynllunio ac yn cyflawni gwaith ar y cyd, ac yn dangos sut, eto i aralleirio ymadrodd arall a ddefnyddir yn gyffredin, mae pedwar pen yn well nag un.

Mae’r papur yn nodi trefniadau hirsefydlog ar gyfer cydweithio, fel uwchgynadleddau iechyd a chyfarfodydd chwarterol rhwng penaethiaid Arolygu. Mae hefyd yn amlinellu menter newydd ddiweddar gan Estyn [agorir mewn ffenest newydd] a gwelliannau i arferion presennol AGGCC [agorir mewn ffenest newydd] sy’n dangos ymhellach yr ymrwymiad i rannu gwybodaeth gan bartneriaid Arolygu Cymru. Mae’n darparu manylion am gydweithio, yn benodol, ond nid yn gyfan gwbl, ym meysydd addysg ac iechyd. Er enghraifft, adolygiadau ar y cyd gan Estyn a Swyddfa Archwilio Cymru [agorir mewn ffenest newydd] o’r pedwar consortiwm rhanbarthol ar gyfer gwella addysg ac adolygiadau ar y cyd gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ac AGGCC o anableddau dysgu a threfniadau Diogelu Rhag Colli Rhyddid.

 

Y camau nesaf i Arolygu Cymru

Dros y 18 mis nesaf, bydd Arolygu Cymru yn datblygu ei adolygiad thematig cenedlaethol ar y cyd cyntaf ar bwnc gwasanaethau i bobl ifanc. Bydd gweithio ar draws eu priod gylchoedd gwaith yn y modd hwn yn galluogi partneriaid Arolygu Cymru i ystyried y gwasanaethau a ddarperir i bobl ifanc gan wahanol gyrff cyhoeddus yn fwy cynhwysfawr ac yn adrodd yn fwy cyfannol ar brofiadau pobl ifanc o wasanaethau.  Bydd blog arall yn y dyfodol agos am y gwaith ar y cyd mae partneriaid Arolygu Cymru yn ei wneud ar wasanaethau ieuenctid yng Nghymru. Yn ogystal, bydd blog arall am yr adolygiad ar y cyd arfaethedig gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru o lywodraethu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

Bydd partneriaid Arolygu Cymru hefyd yn parhau i ymgysylltu â Llywodraeth Cymru wrth iddi ddatblygu ei chynlluniau ar gyfer diwygio llywodraeth leol, fel y nodwyd ym Mhapur Gwyn mis Ionawr 2017 ar ddiwygio llywodraeth leol.

Ynglŷn â’r awdur

emma-gilesCymerodd Dr Emma Giles drosodd fel Rheolwr Rhaglen Arolygu Cymru ym mis Mawrth 2017. Cyn hyn, roedd Emma yn arweinydd archwilio perfformiad gyda Swyddfa Archwilio Cymru.

Mae Emma yn hoff iawn o weithgareddau awyr agored, yn cynnwys beicio mynydd a cherdded. Mae ganddi ddoethuriaeth mewn Troseddeg, a oedd yn edrych ar sut roedd troseddwyr a staff cyfiawnder troseddol yn deall tegwch, a beth roedd y gwahanol safbwyntiau hyn ynghylch tegwch yn golygu ar gyfer y perthynas rhwng staff a throseddwyr.

Cydweithredu ar Waith – Gweithio gyda’n Gilydd ar Lywodraethu Iechyd

Byddwn yn siarad gryn dipyn am gydweithrediad yn y blog hwn, a hynny am ei fod yn bwysig sicrhau bod gwaith ein partneriaid yn ychwanegu gwerth i wasanaethau cyhoeddus. Byddai’n wastraff adnoddau petawn ni i gyd yn edrych ar yr un pethau yn yr un ffordd. Mae’n bwysig am resymau eraill hefyd. Petawn ni i gyd yn edrych ar wasanaethau drwy’r un lens, yna mae’n bosibl y byddem yn colli rhai materion pwysig.

Mae siarad amdano yn un peth, ond roeddem o’r farn y byddai’n braf dangos i chi sut y mae cydweithredu yn gweithio go iawn ar gyfer Gwasanaethau Iechyd yng Nghymru. Mae gan ddau o’n partneriaid rolau yn yr adolygiad allanol o lywodraethu’r gwasanaeth iechyd. Nawr, mae’n bosibl eich bod yn meddwl bod llywodraethu yn bwnc braidd yn sych ar gyfer blog, ond buaswn i’n anghytuno! Mae llywodraethu yn ei wir ystyr yn creu sefydliadau effeithiol, mae’n pennu’r cwestiynau mawr, pwysig, fel sut y mae pethau’n cael eu gwneud o gwmpas fan hyn? A yw’n dderbyniol gwneud hyn? Sut y mae sefydliad yn cael ei strwythuro? Sut y mae arweinwyr yn gwybod a ydym yn gwneud y pethau iawn? Ym maes iechyd – a yw ein cleifion yn ddiogel?

Felly, sut rydym yn cydweithredu go iawn?

wao_hiw_infographic_welsh

Mae gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ac Archwilydd Cyffredinol Cymru gylchoedd gwaith penodol sy’n cynnwys llywodraethu gwasanaethau iechyd yng Nghymru. Gallai ein partneriaid fynd allan ac adolygu gwaith llywodraethu yn annibynnol ar ei gilydd, ac adrodd arnynt drwy eu sianelu. Ond gwnaethant benderfynu ei bod yn well cydweithio. Mae’r papur sy’n cyd-fynd â’r blog hwn yn egluro sut maen nhw’n gwneud hyn mewn ffordd glir, ond fy nghasgliad i yw ein bod wedi gwneud penderfyniad strategol i ystyried llywodraethu o ddau gyfeiriad. Mae AGIC yn mynd at y gwaith o wasanaethau rheng flaen mewn wardiau unigol a meysydd gwasanaeth, tra bod SAC yn mynd ato o’r safbwynt sefydliadol o’r brig i’r bôn. Golyga hyn bod gwaith y ddau yn ategu ei gilydd. Nid yw hyn, ar ei ben ei hun, yn ddigon i gael y gwerth mwyaf o’n gwaith, felly rydym hefyd yn cydweithio mewn llawer o ffyrdd. Rydym yn defnyddio dulliau cyswllt ffurfiol ac anffurfiol amrywiol er mwyn sicrhau ein bod yn gwneud cysylltiadau o’r hyn mae ein gwaith yn dweud wrthym, ac yn gallu rhagweld llawer o broblemau a thynnu sylw atynt cyn i rywbeth ofnadwy ddigwydd.

Gwnawn hyn drwy ein proses Uwchgynadleddau Gofal Iechyd, cyfarfodydd rheolaidd rhwng uwch aelodau o staff a staff gweithredol o’r ddau bartner, ac ymgysylltu â Llywodraeth Cymru drwy broses Uwchgyfeirio ac Ymyrryd y GIG .

Ac felly?

Rydym wedi esblygu ein gallu i gydweithio ers datganoli, nid yw hyn yn rhywbeth newydd ac mae wedi ein helpu i gynhyrchu nifer o ddarnau o waith ar y cyd o CAMS, i’r Adolygiad llywodraethu ar y Cyd Betsi yn 2013.

Mae hon yn enghraifft dda o gydweithio ar waith, a gobeithiaf y byddwch yn darllen ein papur partneriaid.

Gofalwr benywaidd yn gwneud cacennau bach gyda defnyddiwr gwasanaeth benywaidd

Dewis a llais: dull unedig o weithredu

Arweiniodd dull unedig o gydweithredu wrth i Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) ac Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC) gynnal arolygiad ar y cyd at lansio adroddiad llwyddiannus yn cynnwys defnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr, ac ymdrech fawr ar gyfryngau cymdeithasol ar y diwrnod.

Gan gyhoeddi ein canfyddiadau ym mis Mehefin, aethom ni – y ddwy arolygiaeth – ati i herio byrddau iechyd ac awdurdodau lleol i wella’r gwaith o gynllunio a darparu gwasanaethau ar gyfer pobl ag anableddau dysgu.

Gyda’n gilydd, cyflwynwyd rhaglen arolygu genedlaethol hirfaith gennym mewn chwe awdurdod lleol a bwrdd iechyd lleol, i weld sut roedd gwasanaethau’n cael eu cynllunio a’u darparu i bobl yn yr ardaloedd hynny.

Cawsom gyfle i gyfarfod grwpiau rheoli a chynnwys, gan gynnwys Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan [agorir mewn ffenest newydd] a Fforwm Cymru Gyfan ar gyfer Rhieni a Gofalwyr [agorir mewn ffenest newydd], a chynhyrchwyd adroddiad ar gyfer Cymru gyfan gennym a’i lansio mewn digwyddiad yn iSmooth [agorir mewn ffenest newydd], menter gymdeithasol gan Mencap Cymru [agorir mewn ffenest newydd] yn Rhydaman.

Roedd hyn yn gwbl briodol ar gyfer yr adroddiad arbennig yma, gan roi mwy o ystyr iddo na phe bai wedi cael ei lansio mewn lleoliad cyffredinol ar gyfer cynadleddau.
Mae gan lawer o aelodau staff iSmooth anableddau dysgu ac roedd yn bwysig bod y lleoliad yn berthnasol i’r mathau o broblemau sy’n cael eu trafod yn yr adroddiad, am y gefnogaeth sydd ar gael i bobl ag anableddau dysgu.

Dywedodd Kevin Barker, arolygydd ac arweinydd AGGCC yn yr arolygiad, bod y broses yn dangos ymrwymiad i wneud yr hyn rydym yn disgwyl i eraill ei wneud: cydweithio i sicrhau canlyniad gwell.

“Mae gweithredu’n dweud cymaint mwy bob amser na geiriau,” dywedodd.

Yr adwaith ar-lein

Roedd geiriau’n bwysig iawn ar ddiwrnod lansio’r adroddiad hefyd, gyda mwy nag 8,000 o bobl wedi gweld y negeseuon trydar ar sianel Twitter @CSSIW [agorir mewn ffenest newydd] – y sianel Saesneg – rhwng 28 a 29 Mehefin. O blith y bobl hynny a welodd y negeseuon trydar, roedd 2.2% ohonynt wedi naill ai glicio arnynt, clicio ar y dolenni ynddynt neu agor y lluniau.

Y neges drydar fwyaf poblogaidd o’r lansiad, a welwyd gan fwy na 2,240 o bobl, oedd y fideo o Wayne Crocker, Cyfarwyddwr Mencap Cymru. Cafodd y neges ei haildrydar 7 gwaith a’i hoffi 7 gwaith, gan bartneriaid fel Mencap Cymru.

Yn y cyfamser, cyrhaeddodd y negeseuon trydar ar sianel Gymraeg AGGCC ar Twitter, @Arolygu_gofal, 2,000 o bobl yn ystod y deuddydd. O blith y bobl hynny a welodd y negeseuon trydar, cliciodd 0.8% ohonynt arnynt neu ar y dolenni.

O ran sianel Twitter @HIW_Wales [agorir mewn ffenest newydd], a oedd yn aildrydar negeseuon AGGCC drwy gydol y deuddydd, cyrhaeddodd eu negeseuon trydar hwy 283 o bobl, ac ar gyfartaledd roedd 0.4% ohonynt wedi dangos diddordeb ynddynt.

Profiad dysgu gwerthfawr

Mae cydweithio ar raglen arolygu mor bwysig wedi bod yn brofiad dysgu gwerthfawr i’r ddau sefydliad, dywedodd Alun Jones, cyfarwyddwr arolygu, rheoleiddio ac ymchwilio AGIC [agorir mewn ffenest newydd].

“Mae’r adroddiad arolygu cenedlaethol o ganlyniad, ac adroddiadau unigol yr awdurdodau lleol/byrddau iechyd, yn gyfoethocach ac yn fwy pwerus oherwydd cyfraniad y ddwy arolygiaeth,” dywedodd.

“Mae ein gwaith ni wedi galluogi i ni daflu goleuni ar y ffordd mae sefydliadau’n cydweithio i gynllunio a darparu gwasanaethau anableddau dysgu.

“Rydyn ni wedi gwneud nifer o argymhellion pwysig sy’n galw am gydweithio mwy effeithiol er lles y bobl sydd ag anableddau dysgu a’u gofalwyr.”

Tyrchu’n ddyfnach

Roedd modd llunio adroddiadau cyfoethocach a mwy pwerus drwy dyrchu’n ddyfnach gyda’n dull o arolygu, esboniodd rheolwr adolygu AGIC, Emma Philander.

“Yn fy marn i, rydw i’n teimlo bod y gofal a’r gefnogaeth o’r ansawdd gorau ar gyfer oedolion sydd ag anableddau dysgu’n sicrhau eu bod yn diwallu holl anghenion y person,” dywedodd.

“Wrth i AGIC ac AGGCC gydweithio, roedden ni’n gallu asesu’n well i weld a oedd y gwasanaethau’n diwallu holl anghenion y bobl, o bersbectif iechyd a gofal cymdeithasol.

“Roedd cydweithio’n golygu ein bod ni wedi gallu edrych ar gymhlethdod y cydweithredu rhwng staff iechyd a staff gofal cymdeithasol a’r effaith roedd hyn yn ei chael ar bobl sydd ag anableddau dysgu.

“Roedd yn golygu bod posib i ni dyrchu’n ddyfnach gyda’n dull o weithredu a dal yr awdurdodau lleol a’r byrddau iechyd i gyfrif er mwyn gwella gwasanaethau i bobl ag anableddau dysgu.

“Rydw i’n teimlo bod y ddau sefydliad wedi dysgu oddi wrth ddulliau ei gilydd o weithredu ac rydyn ni’n edrych ymlaen at adeiladu ar hyn a chydweithio mwy yn y dyfodol.”

Roedd rheolwr polisi a deddfwriaeth AGIC, Nia Roberts, yn cytuno.

“Un o’r pethau da eraill am y gwaith yma oedd ein bod ni wedi edrych ar fyrddau iechyd ac awdurdodau lleol ar wahanol lefelau,” esboniodd.

“Fe welson ni sut roedd cydweithwyr o wasanaethau iechyd a chymdeithasol yn cydweithio ar y rheng flaen i ddarparu gofal a chefnogaeth i unigolion sydd ag anableddau dysgu.

“Hefyd fe wnaethon ni ofyn i uwch gynrychiolwyr y byrddau iechyd a’r awdurdodau lleol esbonio sut maen nhw’n cynllunio ac yn comisiynu i ddiwallu anghenion yr holl bobl sydd ag anableddau dysgu yn eu hardal. Roedd hyn yn cynnwys craffu gan AGGCC ac AGIC.

“O gofio am ddarpariaethau’r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru), roedd hwn yn waith pwysig ac roedd yn gyfoethocach gan fod y ddwy arolygiaeth yn cymryd rhan.”

Dyma gasgliad arweinydd prosiect AGGCC, Kevin Barker.

“Roedd llawer o fanteision i’r gwaith ar y cyd rhwng AGGCC ac AGIC yn yr arolwg yma, ac yn sicr o ran ystod ac ansawdd y dystiolaeth a gyflwynwyd,” dywedodd.

“Mae pobl ag anableddau a’r teulu sy’n gofalu amdanyn nhw angen help a chefnogaeth yn aml gan wasanaethau iechyd a chymdeithasol. Maen nhw’n disgwyl dull unedig o weithredu gan y bobl a’r asiantaethau sy’n gysylltiedig â hyn ac felly hefyd yr arolygiaethau.”

Mae posib darllen yr adroddiad arolygu ar y cyd ar y wefan AGGCC [Agorir mewn ffenest newydd].

Rhoi’r pwyslais ar y cyhoedd mewn gwasanaethau cyhoeddus

Gwnaeth Rheolwr Rhaglen Arolygu Cymru, Mandy Townsend, ymweld â Sioe Frenhinol Cymru y mis diwethaf fel rhan o stondin Arolygu Cymru ar y cyd gydag Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC), Estyn, Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, a Swyddfa Archwilio Cymru. Yn y blog hwn, mae Mandy yn rhannu ei syniadau ynglŷn â pham mae’r sioe yn cynrychioli cyfle gwych i gysylltu â’r cyhoedd a wasanaethir gennym.

Ers i ni ddechrau Arolygu Cymru, rydym wedi siarad llawer am ein hangen i gydweithredu gyda’n gilydd. O adroddiadau ar y cyd ynglŷn â phynciau megis addysg ac iechyd, hyd at ein dull cydweithredol ar gyfer chwythu’r chwiban, gallwn ddangos manteision rydym yn eu hennill drwy weithio ar y cyd.

Un o’r rhannau allweddol yn hyn o beth yw’r cyhoedd. Fel cyrff gwarchod gwasanaethau cyhoeddus, rydym yn gweithio dros bobl Cymru i sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus Cymru yn cael eu darparu hyd at y safonau gorau posibl. Felly mae angen i ni glywed gan y cyhoedd oddeutu nid yn unig sut y gellir gwella’r gwasanaethau hyn, ond hefyd y rôl maent yn disgwyl i ni ei chwarae er mwyn gwireddu hyn.

Dyma pam y gwnaethom i gyd ymweld â’r Sioe Frenhinol y mis diwethaf. Roedd cael presenoldeb yn y digwyddiad anferth hwn yn ein rhoi mewn cyswllt â phobl o bob rhan o Gymru, o bob oedran, ac mae pawb ohonynt yn cael pethau gwahanol gan wasanaethau gwahanol.  Wrth arddangos yn ein stondin Arolygu Cymru, gwnaethom siarad â channoedd o bobl yn ystod pedwar diwrnod y sioe. Roedd ganddynt i gyd bethau diddorol i’w dweud o ran gwella ein gwasanaethau, ac roedd hefyd yn gyfle, ar gyfer y rhai nad oeddent wedi clywed amdanom o bosibl, i godi ymwybyddiaeth am ein gwaith.

Buodd arddangos ar y cyd fel Arolygu Cymru yn boblogaidd gydag ymwelwyr a llwydodd i leihau costau.  Gwnaeth hefyd gryfhau’r berthynas rhwng y pedwar sefydliad sy’n ffurfio Arolygu Cymru.
Yn ogystal â hyn, gellid ychwanegu dealltwriaeth graff iawn gan y cyhoedd yng Nghymru, a gallaf ddweud yn hollol onest fod yr wythnos yn llwyddiant ysgubol.

Yn y fideo sy’n cydfynd â’r blog hwn, rwyf wedi benthyca ymadrodd yr haf gan ein tîm pêl-droed cenedlaethol (rydych yn gwybod pa un) er mwyn crynhoi’r gwersi a ddysgwyd dros yr wythnos, ac mae’r rhain yn berthnasol nid dim ond i’r wythnos honno ond i Gymru yn ei chrynswth. Er gwaethaf cael ein hystyried fel un o’r cenhedloedd llai, rydym wedi profi ein bod yn gallu cyflawni pethau mawr. Mae pobl yn aml yn dweud bod Cymru yn genedl gysylltiedig a gallwn ei gwneud yn fwy byth drwy gynyddu ein cydweithrediad nid o’r naill wasanaeth cyhoeddus i’r gwasanaeth cyhoeddus arall yn unig, ond hefyd drwy wneud y cysylltiad gyda’r bobl rydym yn eu gwasanaethu er mwyn cyfannu’r cylch.

Ni fyddwn yn aros am flwyddyn arall tan y sioe nesaf; byddwn yn parhau ein sgyrsiau a byddwn i gyd yn cymryd rhan mewn gwella gwasanaethau. Felly y tro nesaf byddwch yn gweld ymgynghoriad gan AGGCC, Estyn, Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru neu Swyddfa Archwilio Cymru, cofiwch gymryd rhan a rhannwch eich syniadau a’ch barn. Wedi’r cyfan, yn union fel Chris Coleman a’i dîm, rydym wirioneddol yn gryfach gyda’n gilydd, ‘Gorau Chwarae, Cyd Chwarae’.

Ynglŷn â’r awdur

Mandy TownsendMandy Townsend ar wyliau mewn cwchDechreuodd Mandy Townsend ar ei gwaith fel Rheolwr Rhaglen Arolygu Cymru ym mis Chwefror 2015 ac mae wedi ei secondio i’r rôl ran-amser am ddwy flynedd.

Mae Mandy, sydd wedi’i lleoli yng ngogledd Cymru, yn treulio gweddill yr wythnos yn ei rôl wreiddiol fel Archwilydd Perfformiad Iechyd yn Swyddfa Archwilio Cymru.

Pobl yn cerdded heibio stondinau arddangosfeydd yn Sioe Frenhinol Cymru

Dysgwch ragor am Arolygu Cymru yn Sioe Frenhinol Cymru

Mae’n bleser gennym gyhoeddi y bydd Arolygu Cymru yn dod yn llu i Sioe Frenhinol Cymru [agorir mewn ffenest newydd] eleni yn Llanfair-ym-Muallt, 18-21 Gorffennaf.

Gan arddangos gyda’i gilydd am y tro cyntaf ers cychwyn y sioe, bydd cynrychiolwyr o Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru [agorir mewn ffenest newydd], Estyn [agorir mewn ffenest newydd], Swyddfa Archwilio Cymru [agorir mewn ffenest newydd] ac Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru [agorir mewn ffenest newydd] (AGGCC) yn siarad ag ymwelwyr am y gwaith y maent yn ei wneud yn unigol a chyda’i gilydd i helpu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru i wella.

Gyda’n gilydd, byddwn yn gofyn i bobl faint maent yn ei wybod am ein gwaith a chasglu adborth er mwyn helpu i lywio ein cyfathrebu â’r cyhoedd yn y dyfodol. Yn ogystal, bydd llawer i’w weld ac i’w wneud ar ein stondin. Byddwn yn dangos rhywfaint o’n cydweithio drwy astudiaethau achos ac yn dangos rhai o’n prosiectau diweddaraf. Bydd man chwarae bach i blant hefyd.

Mae tîm Estyn yn edrych ymlaen at gyfarfod â rhieni, athrawon a dysgwyr a all fod â diddordeb mewn clywed am y ffordd y gall arolygiadau o ysgolion a darparwyr addysg a hyfforddiant eraill newid o fis Medi 2017.

Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yn mynd i’r sioe am y tro cyntaf eleni a byddant yn codi ymwybyddiaeth o’r gwaith yn yr arolygiaeth ac yn ceisio barn ar brofiadau pobl o wasanaethau gofal iechyd. Lansiwyd eu gwefan newydd fis diwethaf ac mae’r tîm yn edrych ymlaen at gyfarfod ag ymwelwyr a gofyn am eu barn.

Yn stondin AGGCC, gwahoddir pobl i gyfarfod ag arolygwyr a darganfod sut i gymryd rhan yng ngwaith yr arolygiaeth.  Gall ymwelwyr hefyd ddysgu rhagor am arolygu, cofrestru, gorfodi a cheisio cyngor ar ddewis gwasanaethau gofal.

Mae Swyddfa Archwilio Cymru yn dychwelyd am ei hail flwyddyn ac yn edrych ymlaen at gael sgyrsiau â’r cyhoedd am rôl archwilio allanol wrth ddwyn gwasanaethau cyhoeddus i gyfrif am eu defnydd o arian cyhoeddus ac wrth gynorthwyo gwelliant.

Felly, p’un a ydych yn ymweld â’r sioe gyda theulu, ffrindiau neu gydweithwyr, dewch i gyfarfod â’r staff cyfeillgar yn stondin Arolygu Cymru, rhif D275, a dysgu rhagor am ein gwaith.

Senedd

Mae ein gwaith ni’n eich helpu chi i wneud penderfyniadau doeth

Briff i Aelodau newydd y Cynulliad

Un o’r pethau sy’n cael eu gofyn i’r rhai sy’n gweithio ym maes adolygu allanol yn rheolaidd yw, ‘beth ydych chi’n ei wneud?’ Rydyn ni’n gwybod bod yr hyn rydyn ni’n ei wneud yn bwysig ac yn gwneud gwahaniaeth, a bod y dystiolaeth rydyn ni’n ei darparu’n helpu i newid pethau er gwell. Ond efallai y byddai papur briffio byr o help i’r rhai sydd heb ymgolli cymaint yn ein byd i ddeall beth yn union mae’n ei gynnwys? Roedden ni’n meddwl hynny.

Mae hyn yn bwysig iawn i’r Cynulliad Newydd, gydag etholiad 5 Mai, oherwydd bydd llawer o’r Aelodau Cynulliad yn newydd, heb fod yn gyfarwydd â’n gwaith ni o bosib. A byddant yn gwneud penderfyniadau am wasanaethau cyhoeddus o’r dechrau un yn eu swyddi newydd. Mae tystiolaeth gadarn o help i bobl wneud penderfyniadau da.

Felly rydyn ni wedi paratoi papur briffio byr, Archwilio, Arolygu a Rheoleiddio yng Nghymru [PDF 215KB Agorir mewn ffenest newydd]. Mae’n cyflwyno crynodeb o bwy ydyn ni a beth rydyn ni’n ei wneud. Gobeithio y bydd yn ddefnyddiol ac yn annog pobl i ddefnyddio ein gwaith ni i sicrhau gwybodaeth.

Wedi’r cyfan, mae’n rhaid i chi wybod ein bod ni’n bodoli a’r mathau o adroddiadau rydyn ni’n eu hysgrifennu cyn i chi wneud penderfyniadau am wasanaethau.

Bydd gwaith partneriaid Archwilio Cymru’n eich helpu chi i ateb cwestiynau fel y rhain:

  • Ydi fy nghyngor i, neu fy ysbyty’n cael ei reoli’n dda?
  • Ydi ysgolion Cymru’n gwella?
  • Sut gwnaeth hynny ddigwydd? E.e. Maes Awyr Caerdydd, Bwrdd Draenio Cymru
  • Ar beth maen nhw’n gwario’r holl arian?
  • Beth yw’r problemau mawr rydyn ni’n eu hwynebu yng Nghymru?
  • Unrhyw wybodaeth fanwl am bynciau penodol fel ydi Theatrau Llawdriniaethau Cymru’n gwella?
  • Ydi gwasanaethau’n helpu pobl hŷn i barhau’n annibynnol?

Felly mae ein hadroddiadau amrywiol yn ychwanegu at y wybodaeth sydd ar gael er mwyn i chi allu gwneud eich penderfyniadau eich hun am ysgolion a chartrefi gofal unigol a gwasanaethau cyhoeddus yn ehangach.

Mae’r papur briffio yma’n datgan cefndir ein gwaith ac yn tynnu sylw at ragor o adnoddau. Gobeithio y bydd pawb sy’n ei ddarllen yn teimlo ei fod o gymorth.