Senedd

Mae ein gwaith ni’n eich helpu chi i wneud penderfyniadau doeth

Briff i Aelodau newydd y Cynulliad

Un o’r pethau sy’n cael eu gofyn i’r rhai sy’n gweithio ym maes adolygu allanol yn rheolaidd yw, ‘beth ydych chi’n ei wneud?’ Rydyn ni’n gwybod bod yr hyn rydyn ni’n ei wneud yn bwysig ac yn gwneud gwahaniaeth, a bod y dystiolaeth rydyn ni’n ei darparu’n helpu i newid pethau er gwell. Ond efallai y byddai papur briffio byr o help i’r rhai sydd heb ymgolli cymaint yn ein byd i ddeall beth yn union mae’n ei gynnwys? Roedden ni’n meddwl hynny.

Mae hyn yn bwysig iawn i’r Cynulliad Newydd, gydag etholiad 5 Mai, oherwydd bydd llawer o’r Aelodau Cynulliad yn newydd, heb fod yn gyfarwydd â’n gwaith ni o bosib. A byddant yn gwneud penderfyniadau am wasanaethau cyhoeddus o’r dechrau un yn eu swyddi newydd. Mae tystiolaeth gadarn o help i bobl wneud penderfyniadau da.

Felly rydyn ni wedi paratoi papur briffio byr, Archwilio, Arolygu a Rheoleiddio yng Nghymru [PDF 215KB Agorir mewn ffenest newydd]. Mae’n cyflwyno crynodeb o bwy ydyn ni a beth rydyn ni’n ei wneud. Gobeithio y bydd yn ddefnyddiol ac yn annog pobl i ddefnyddio ein gwaith ni i sicrhau gwybodaeth.

Wedi’r cyfan, mae’n rhaid i chi wybod ein bod ni’n bodoli a’r mathau o adroddiadau rydyn ni’n eu hysgrifennu cyn i chi wneud penderfyniadau am wasanaethau.

Bydd gwaith partneriaid Archwilio Cymru’n eich helpu chi i ateb cwestiynau fel y rhain:

  • Ydi fy nghyngor i, neu fy ysbyty’n cael ei reoli’n dda?
  • Ydi ysgolion Cymru’n gwella?
  • Sut gwnaeth hynny ddigwydd? E.e. Maes Awyr Caerdydd, Bwrdd Draenio Cymru
  • Ar beth maen nhw’n gwario’r holl arian?
  • Beth yw’r problemau mawr rydyn ni’n eu hwynebu yng Nghymru?
  • Unrhyw wybodaeth fanwl am bynciau penodol fel ydi Theatrau Llawdriniaethau Cymru’n gwella?
  • Ydi gwasanaethau’n helpu pobl hŷn i barhau’n annibynnol?

Felly mae ein hadroddiadau amrywiol yn ychwanegu at y wybodaeth sydd ar gael er mwyn i chi allu gwneud eich penderfyniadau eich hun am ysgolion a chartrefi gofal unigol a gwasanaethau cyhoeddus yn ehangach.

Mae’r papur briffio yma’n datgan cefndir ein gwaith ac yn tynnu sylw at ragor o adnoddau. Gobeithio y bydd pawb sy’n ei ddarllen yn teimlo ei fod o gymorth.

Chiwban arian

Rôl Partneriaid Arolygu Cymru wrth chwythu’r chwiban yng Nghymru

Neu ar bwy y dylwn chwythu’r chwiban os ydw i’n gweithio yng Nghymru?

Un o amcanion rhaglen Arolygu Cymru yw gweithio gyda’n gilydd yn effeithlon. Un ffordd allweddol o wneud hyn yw ‘rhannu a dysgu’ am ein dulliau mewnol o ran nifer o bethau rydym i gyd yn eu gwneud.

Un enghraifft o hyn yw chwythu’r chwiban: mae tri o’n pedwar partner yn ‘Bersonau Rhagnodedig’ o dan Ddeddf Datgelu er Lles y Cyhoedd 1998 (PIDA) [agorir mewn ffenest newydd], ac mae gennym oll bobl, boed yn weithwyr cyrff cyhoeddus Cymru neu’n aelodau o’r cyhoedd, sy’n cyflwyno pryderon i ni. Os yw’r pryderon gan aelodau o weithwyr, gallant (yn dibynnu ar natur y pryderon) gael eu dosbarthu fel chwythu’r chwiban.

Ystyr chwythu’r chwiban yw pan fydd gweithiwr yn rhoi gwybod i rywun am bryderon difrifol ynghylch camymddwyn neu gamymarfer yn y gweithle.

Mae gan bob partner ddulliau ar gyfer ymdrin â phryderon, a gallwch ddod o hyd iddynt ar ein gwefannau. Ond sylweddolwn nad yw bob amser yn hawdd darganfod â phwy y dylai darpar chwythwr chwiban gysylltu ag ef yng Nghymru.

Sy’n esbonio’r is-deitl: ar bwy y dylwn chwythu’r chwiban os ydw i’n gweithio yng Nghymru? I helpu, rydym wedi paratoi canllaw byr, syml ar ein priod gyfrifoldebau [agorir mewn ffenest newydd].

Yn gryno, os oes gennych bryder am y GIG, Gofal Cymdeithasol, Addysg neu werth am arian, twyll a llygredd mewn perthynas â darparu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, bydd y daflen hon yn eich helpu i benderfynu pa un o’n partneriaid y dylech gysylltu â hwy, a’r hyn y gallwch ddisgwyl fydd yn digwydd.

Gallwch gysylltu â ni hyd yn oed os nad ydych yn weithiwr a byddwn yn trin unrhyw bryderon o’r fath o ddifrif, ond ni fydd y mesurau diogelu o dan y Ddeddf Datgelu er Lles y Cyhoedd yn berthnasol.

Ni allwn warantu y byddwn yn cadw’ch pryder yn gyfrinachol nac y byddwn yn ymchwilio i bob pryder a godir yn fanwl, ond rydym yn cymryd pob cyswllt o ddifrif ac yn ei fwydo i mewn i’n gwybodaeth ar y cyd i’n helpu i arwain ein gwaith.

Gobeithio y bydd y daflen hon yn ddefnyddiol, a’r bwriad yw y bydd yn ategu canllawiau ehangach a manylach ar bartneriaid.

Rhagor o gyngor am ddulliau partneriaid:

Ceir hefyd nifer o ffynonellau allanol o gyngor, gan gynnwys yr elusen Public Concern at Work [agorir mewn ffenest newydd].

Adroddiad Arolygu Cymru ar fwrdd gwyn

A yw gweithio ar y cyd yn gweithio? Cydweithio rhwng cyrff archwilio ac arolygu yng Nghymru … y stori hyd yma

Bedair blynedd yn ôl, arwyddodd penaethiaid y pedwar prif sefydliad archwilio ac arolygu yng Nghymru gytundeb i ffurfioli cydweithio rhwng y sefydliadau.

Roedd yn gam rhesymegol gan Swyddfa Archwilio Cymru (dan arweiniad Archwilydd Cyffredinol Cymru), Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC), Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru (Estyn) ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC).

Roedd y cytundeb yn cryfhau’r cysylltiadau rhwng y pedwar sefydliad ac yn gosod sylfaen gadarn ar gyfer gwell cydweithredu, rhannu gwybodaeth a chynllunio busnes. Yr amcan allweddol? Gwella canlyniadau i bobl Cymru.

Ond a wnaethon ni gyflawni’r hyn roeddem wedi bwriadu ei gyflawni?

Wel, pan wnes i gychwyn fy swydd newydd fel Rheolwr Rhaglen Arolygu Cymru ym mis Chwefror 2015, dyna oedd y peth cyntaf roeddwn eisiau ei wybod. Felly, a wnaethon ni lwyddo?

Felly, a wnaethon ni lwyddo?

Do, rwy’n credu ein bod ni. Ond, nid ydym (hyd yma) wedi dweud wrth lawer o bobl am y peth.

Mi wnaethon ni gynhyrchu adroddiad ar ein cynnydd hyd yn hyn, sy’n cyflwyno rhai canfyddiadau manwl. Gallwch ddarllen mwy am y canfyddiadau yma yn yr adroddiad, ond dyma roi crynodeb ohonynt yma.

Perthnasoedd

Mae’r rhain yn anodd eu mesur, ond gallaf dystio bod y berthynas rhwng ein pedwar sefydliad yn gryf ac yn bodoli ar sawl lefel ar draws y busnesau. Mae angen sicrhau lefel o ymddiriedaeth er mwyn gweithio gyda’n gilydd y tu allan i’n cynefin sefydliadol, ac rydym yn gwneud hynny. Dydw i ddim yn dweud bod popeth yn berffaith, ac mewn rhai meysydd mae’r perthnasoedd hyn yn dal i ddatblygu, ond rydym wedi gosod sylfeini cadarn.

Blociau adeiladu

Roedd angen i ni gytuno ar sut ydym yn gwneud pethau gyda’n gilydd. Nid oedd hynny’n mor hawdd ag y gallai fod, oherwydd ein bod i gyd yn gweithio o dan gyfreithiau a threfniadau adrodd yn ôl gwahanol. Rydym eisoes wedi cyhoeddi ein papur cylch gwaith, sy’n egluro hyn i gyd yn fanwl. Felly, roedd angen i ni weithio trwy brosesau sylfaenol fel rhannu gwybodaeth, a’r ffordd rydym yn ymdrin â phryderon difrifol am sefydliad.

Gweithio ar y cyd

Rydym wedi gwneud llawer o bethau ar y cyd, ond nid ydym bob amser wedi dweud wrth bawb ein bod wedi gwneud hynny gyda’n gilydd! Mae ein hadroddiad cyfrif stoc yn cynnwys sawl enghraifft, a bydd rhai o’r rhain yn ddarnau cyfarwydd o waith i chi, ond efallai nad oeddech yn ymwybodol mai gwaith ar y cyd oeddent.

Rydym yn gwybod bod angen i ni wella o ran rhannu ein llwyddiannau wrth weithio ar y cyd. Dyna un o’n rhesymau dros sefydlu’r safle blogio yma. Byddaf yn ysgrifennu mwy o flogiadau yn ystod yr wythnosau a’r misoedd nesaf, ond y bwriad hefyd yw cael cyfraniadau gan bobl eraill sy’n teimlo yr un mor angerddol am weithio ar y cyd.

Rydym yn edrych ymlaen at rannu mwy am ein bwriadau archwilio ac arolygu gyda chi, er mwyn gadael i’r bobl yng Nghymru wybod a ydynt yn cael yr hyn sydd ei angen arnynt a’r hyn y maent yn ei haeddu.

Ynglŷn â’r awdur

Mandy Townsend ar wyliau mewn cwch

Mandy Townsend ar wyliau mewn cwchDechreuodd Mandy Townsend ar ei gwaith fel Rheolwr Rhaglen Arolygu Cymru ym mis Chwefror 2015 ac mae wedi ei secondio i’r rôl ran-amser am ddwy flynedd.

Mae Mandy, sydd wedi’i lleoli yng ngogledd Cymru, yn treulio gweddill yr wythnos yn ei rôl wreiddiol fel Archwilydd Perfformiad Iechyd yn Swyddfa Archwilio Cymru.

 

Macbook arddangos canllawiau ar rannu gwybodaeth

Rhannu neu beidio? Sut rydym yn defnyddio ein gwybodaeth ar y cyd i gydweithredu’n effeithiol

Un o elfennau allweddol y cydweithredu rhwng partneriaid Arolygu Cymru yw rhannu gwybodaeth. Ac mae defnyddio gwybodaeth ac arbenigedd ein sefydliadau ar y cyd wedi dechrau gwella cadernid a chwmpas ein gwaith eisoes.

Mae ein hadroddiad diweddaraf ar gonsortia addysg rhanbarthol yng Nghymru yn enghraifft wych o hyn. Fel y manylir gan Mark Campion o Estyn mewn neges flaenorol ar y blog yma, roedd rhannu ein data a’n hymchwil ar y cyd yn ffordd wych i ni ychwanegu gwerth.

Drwy sefydlu fframwaith sy’n galluogi i ni rannu gwybodaeth cyn i ni ddechrau ar y darn o waith hwn ar y cyd, roedd modd i ni gydweithio i elwa o’r manteision a llunio dau adroddiad, ar gyfer Llywodraeth Cymru a Chynulliad Cenedlaethol Cymru, heb wastraffu adnoddau a dyblygu ymdrechion.

Fodd bynnag, mae’n bwysig gweithredu’n briodol gyda gwybodaeth sensitif ac, yn ystod y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi rhoi gweithgor ar waith gyda’n partneriaid i sicrhau bod yr hyn rydym yn ei rannu yn briodol ac yn gytbwys.

Edrychodd y grŵp hwn ar y canlynol:

  • pa wybodaeth oedd gan bawb
  • sut rydym yn ei chadw
  • beth ddylem ei rannu, ac
  • edrych ar sut ddylem wneud hynny’n ddiogel ac yn gyfreithiol.

Gallwch ddychmygu pa mor gymhleth yw hyn o ystyried ehangder a dyfnder cyfrifoldebau’r partneriaid. Yn y pen draw, yr hyn yr oedd ein staff ei angen oedd fframwaith i rannu gwybodaeth ac, yn bwysicach na dim efallai, caniatâd y Penaethiaid – Archwilydd Cyffredinol Cymru, Prif Arolygydd yr Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol, Prif Arolygydd Estyn a Phrif Weithredwr Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru – i wneud hynny pan mae ein gwaith yn gofyn am y cam gweithredu hwnnw.

Mae rhannu gwybodaeth yn hanfodol i lwyddiant unrhyw gydweithredu ac mae sefydlu fframwaith ar gyfer hyn yn golygu nad ydym yn cael ein dal mewn trap o gadw arbenigedd i ni ein hunain. Mae hefyd yn golygu ein bod yn gallu cydweithio tuag at ein nod ar y cyd – cefnogi gwell canlyniadau i bobl Cymru.

Darllenwch ein crynodeb i gael gwybod sut rydym yn rhannu gwybodaeth.

Ynglŷn â’r awdur:

Mandy Townsend ar wyliau mewn cwchMandy Townsend ar wyliau mewn cwchDechreuodd Mandy Townsend ar ei gwaith fel Rheolwr Rhaglen Arolygu Cymru ym mis Chwefror 2015 ac mae wedi ei secondio i’r rôl ran-amser am ddwy flynedd.

Mae Mandy, sydd wedi’i lleoli yng ngogledd Cymru, yn treulio gweddill yr wythnos yn ei rôl wreiddiol fel Archwilydd Perfformiad Iechyd yn Swyddfa Archwilio Cymru.

Pam y dylen ni boeni am gydweithredu?

Ruth StudleyMae ein blogger gwadd, Ruth Studley , Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, yn egluro pwysigrwydd cydweithio.

Efallai y byddwch yn holi pam y dylen ni boeni am gydweithredu.

Mae cydweithredu’n hanfodol yn yr oes sydd ohoni, lle’r ydym eisiau gwneud yr effaith fwyaf posibl a hynny gyda llai o adnoddau’n aml iawn.

Mae angen i bob un ohonom wybod beth rydym yn ei wneud a pham.  Mae angen i ni wybod sut mae ein rôl bersonol ni’n rhan o nodau ein sefydliad.

Mae angen i ni fynd gam ymhellach yn y sector cyhoeddus ac ystyried sut mae ein rolau personol a sefydliadol yn rhan o’r nod ehangach o fod eisiau cael effaith gadarnhaol ar y boblogaeth.  Gallwn wneud hyn ar ein pennau ein hunain, ond rydym yn cael mwy o effaith pan fyddwn yn ei wneud gydag eraill.  Ydych chi’n cytuno?

Pam nad ydyn ni’n cydweithredu mwy – A ydyn ni i gyd yn deall beth yw ystyr cydweithredu?  

Mae Geiriadur Prifysgol Cymru’n nodi mai cydweithredu yw ‘ymgymryd â gwaith neu fusnes, &c, gydag eraill i ryw ddiben cyffredin, cydweithio, llafurio ynghyd’.  

Rwy’n credu bod cydweithredu effeithiol yn fwy na hyn.  Mae’n fwy na nod cyffredin gyda cherrig milltir a thargedau cyflawniadwy cytûn.  Caiff ei gyfoethogi gan ymddiriedaeth a pharch, bod yn agored, gonestrwydd a thryloywder ynghylch barn a safbwyntiau croes i’w gilydd, datrys problemau anodd er mwyn dod i gytundeb, amcan sy’n dderbyniol gan bawb.

Sut rydyn ni’n cydweithredu mwy – Ydych chi wedi ystyried sut mae cydweithredu’n edrych yn eich amgylchedd chi?

Cydweithredu yw’r sbardun sy’n gyrru Arolygiaeth Cymru. Ond beth mae hynny’n ei olygu?  Sut mae’n edrych?  Sut mae’n teimlo?

O safbwynt personol, mae’n ymwneud ag ymddiriedaeth, parch rhwng y naill a’r llall, bod yn agored, gonestrwydd, a dibynadwyedd.  Yn ddiddorol, gellir crynhoi hyn yn fathemategol:
trust-equation-image-welsh

I ddechrau, beth am i ni ystyried yr agweddau hynny ar ymddiriedaeth sy’n cael effaith gadarnhaol ar gydweithredu.

Hygrededd – ydych chi’n dweud yr hyn rydych yn ei wybod ac a yw’n gywir?  Sut rydych chi’n gwybod?

Dibynadwyedd – ydych chi’n gwneud yr hyn y gwnaethoch ddweud y byddech yn ei wneud?

Agosrwydd – ydych chi’n adnabod eich cydweithwyr, staff, rheolwyr? Ydych chi’n eu gwerthfawrogi nhw ac yn eu hysbrydoli?  Ydych chi’n gwybod beth yw eu gwerthoedd ac yn eu gwerthfawrogi?

Mae’n ddefnyddiol i fyfyrio ar ein hymddygiadau a gwerthuso’r nodweddion hyn yn onest.

Fel unrhyw fathemategydd, rwy’n gwybod beth yw pŵer yr enwadur!  Mae’r gallu gan y cilydd i danseilio’r rhifiadur.  Yn y cyd-destun hwn, gall wneud difrod sylweddol i’r ymddiriedaeth a’r gydberthynas a adeiledir gennym.  Rhaid i ni fod yn ymwybodol o hunan-fudd wrth ystyried yr enghraifft hon.

Ydych chi’n gwneud penderfyniadau neu’n ymddwyn mewn ffordd arbennig er eich budd eich hun heb ystyried yr effaith ar eraill?  Ydy popeth yn troi o amgylch eich brand chi?  Eich nod chi?

Mae Arolygiaeth Cymru’n seiliedig ar lawer o’r egwyddorion hyn.  Er enghraifft, mae cyhoeddi’r egwyddorion rhannu gwybodaeth yn ddiweddar yn golygu bod angen ymddiried yn sylweddol mewn sefydliadau eraill i ddefnyddio’r wybodaeth honno’n briodol a’i chadw’n ddiogel.  Mewn nifer o feysydd, rydym yn nodi ein hamcanion ar y cyd neu amcanion sy’n gorgyffwrdd ac yn canolbwyntio ar gyflenwi’r rhain gyda’n gilydd er mwyn cyflawni canlyniadau gwell i bobl.

Yn wir, fe allem ddefnyddio grym y cilydd yma a dweud – pam na fyddech yn cydweithredu?  Trwy ganolbwyntio ar ein buddiannau ein hunain a rhai ein sefydliad, gall gwrthwynebiad ddatblygu yn hytrach nac ymddiriedaeth, ond yn y pen draw gellir goresgyn hyn gan y rhai sy’n hygoel ac yn ddibynadwy ac agored, ac sydd am weithio gyda’i gilydd i gyflawni gwell canlyniadau.

I gloi, rwyf am ddyfynnu Helen Keller:

“Rydym yn gwneud cyn lleied ar ein pennau ein hunain; gallwn wneud cymaint gyda’n gilydd.”

Ruth Studley yw’r Cyfarwyddwr Strategaeth a Datblygu yn Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC). Cyn ymuno a AGIC Ruth oedd  Pennaeth Ystadegau Iechyd yn StatsCymru.

Safbwyntiau ynghylch adroddiad ar annibyniaeth pobl hŷn yng Nghymru

Yr wythnos hon mae Archwilydd Cyffredinol Cymru wedi cyhoeddi’r adroddiad ‘Helpu Pobl Hŷn i Fyw’n Annibynnol: A yw Cynghorau’n Gwneud Digon?’

Mae’r adroddiad yn archwilio i ba un a yw cynghorau’n gweithio’n effeithiol i helpu pobl hŷn i fyw’n annibynnol. Er bod sector cyhoeddus Cymru’n cydnabod yr heriau’n gysylltiedig â phoblogaeth sy’n heneiddio, daeth yr adroddiad i’r casgliad fod rhai rhwystrau allweddol yn cyfyngu ar y newid ffocws sydd ei angen er mwyn lleihau’r galw am wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol a helpu pobl hyn i fyw’n annibynnol.

Fe gynhaliwyd yr astudiaeth hon gan Swyddfa Archwilio Cymru ac Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru, sy’n rhan o Arolygu Cymru, ynghyd â Chomisiynydd Pobl Hŷn Cymru.

Yn y gyfres hon o fideos, mae Archwilydd Cyffredinol Cymru, Prif Arolygydd Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru a Chomisiynydd Pobl Hŷn Cymru yn ateb y cwestiynau canlynol ar yr adroddiad:

Yn amlwg, mae heriau ariannol ynghlwm â darparu’r gwasanaethau hyn, beth all llywodraeth leol ei wneud i sicrhau fod gwasanaethau ar gael i’r rheiny sydd eu hangen arnynt fwyaf?

Yn sgil canfyddiadau adroddiad heddiw, pa argymhellion fyddech chi’n eu cyflwyno i gynghorau ac i Lywodraeth Cymru er mwyn helpu i wella’r gwasanaethau maent yn eu cynnig i bobl hŷn yng Nghymru?

Huw Vaughan Thomas, Archwilydd Cyffredinol Cymru

Imelda Richardson, Prif Arolygydd, Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru

Sarah Rochira, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru

 

Os hoffech chi weld copi o’r adroddiad fe allwch chi wneud hynny drwy wefan Swyddfa Archwilio Cymru

Rhoi cydweithio ar waith

Mae adroddiad ar y cyd ar annibyniaeth pobl hŷn, a gyhoeddwyd heddiw, yn esiampl wych o’r ffordd mae Rhaglen Arolygu Cymru yn datblygu ei dulliau o gydweithio.

Fe gynhaliwyd yr astudiaeth hon gan Swyddfa Archwilio Cymru ac Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru, sy’n rhan o Arolygu Cymru, ynghyd â Chomisiynydd Pobl Hŷn Cymru.

Yn y blog hwn, mae cynrychiolwyr o bob un o’r tri sefydliad yn amlinellu’r manteision o weithio gyda’i gilydd ar yr adroddiad hwn a sut mae cydweithio yn eu helpu nhw i gyflawni gwell allbynnau.

Huw Vaughan Thomas, Archwilydd Cyffredinol Cymru

Auditor General for Wales

Cydweithio. Mae pawb yn son amdano a’r buddion sydd i’w cael o’i wneud. Fe fyddwch chi’n gyfarwydd â’r darlun. Defnydd gwell o adnoddau, y gallu i ddwyn ar wybodaeth ehangach, gwybodaeth arbenigol, profiad helaethach sy’n arwain at well dealltwriaeth, ac yn ymarferol hefyd – mae dau ben yn well nag un wrth fynd i’r afael â thasg anodd. Fel cysyniad, mae’n anodd dadlau yn ei erbyn, ond gall fod yn anodd iawn i’w wneud, serch hynny. Mae angen cydbwyso arddulliau gweithio gwahanol, disgwyliadau gwahanol ac amcanion gwahanol os yw am lwyddo. Mae’n helpu hefyd os ydych chi’n dod ymlaen ac os yw’r naill a’r llall yn hoff o’i gilydd.

Wrth feddwl am y manteision ac anfanteision o gydweithio, rwy’n falch o ddweud fod astudiaeth Swyddfa Archwilio Cymru ar annibyniaeth barhaus pobl hŷn, a gyhoeddwyd ar 15 Hydref 2015, wedi ei seilio ar brofiad o gydweithio’n effeithiol. Ein cydweithwyr yn Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru a Swyddfa Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru fu’n cynorthwyo’r Archwilydd Cyffredinol wrth gyflawni’r astudiaeth hon, a hynny mewn modd cadarnhaol.

Yn sgil y gefnogaeth a ddarparwyd, y cyngor a dderbyniwyd, yn ogystal â’r holl gymorth o ran siapio’r fethodoleg, cyflawni gwaith maes, dosbarthu arolygon, hyrwyddo’r gwaith ac adolygu’r darganfyddiadau, cafwyd adolygiad cynhwysfawr wnaeth arwain at ddarlun manwl o’r ffordd mae cynghorau yn helpu pobl hŷn i fyw’n annibynnol. Oni bai am frwdfrydedd a pharodrwydd AGGCC a’r Comisiynydd i gefnogi’r gwaith yma, ni fyddai cwmpas nac effaith yr astudiaeth wedi bod mor gynhwysfawr. Mae un peth yn sicr, mae buddion cydweithio yn amlwg i bawb ac yn rhywbeth y mae angen i ni barhau i weithio arno, ac yn rhywbeth y gallwn ni – ac sydd angen i ni – wneud mwy ohono.

Imelda Richardson, Prif Arolygydd, Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru

Imelda Richardson

Rydym yn cydweithio gyda’r arolygiaethau eraill yng Nghymru ac rydym yn falch o gefnogi dull o weithio ar y cyd, fel a ddangoswyd gennym trwy gydweithio gydag Estyn i greu fframwaith arolygu ar y cyd ar gyfer gwasanaethau blynyddoedd cynnar. Mae gennym nifer o gytundebau o ran sut yr ydym yn gweithio gyda chyrff rheoleiddio ac arolygiaethau eraill ac awdurdodau lleol sy’n rhan o wella ansawdd gofal cymdeithasol a gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru.

Ar gyfer yr adroddiad hwn roeddem yn gallu rhannu gwybodaeth o’n gweithgarwch arolygu ym mhob un o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru, a chydweithio gyda phartneriaid i ganolbwyntio’n well ar les ein poblogaeth hŷn. Roeddem yn hapus i gyflawni rôl gefnogol ar gyfer yr adroddiad hwn a rhannu ein gwybodaeth a’n profiad mewn perthynas ag anghenion pobl hŷn.

Mae ein gwaith yn rhan bwysig o’r sector gofal cymdeithasol yng Nghymru, ac mae cydweithio yn ein galluogi i fod yn llais cryfach dros wella gofal ar gyfer pobl yng Nghymru na phe baem yn gweithredu ar wahân.

Mae derbyn syniadau ynghylch arfer gorau a chymryd golwg drawsbynciol ar draws maes gofal cymdeithasol yn ein galluogi i wella ein hymarfer ni ein hunain a rhannu syniadau’n fwy eang ar draws sefydliadau eraill, ac ni all hyn ond cael effaith gadarnhaol ar y bobl yng Nghymru sy’n dibynnu ar ofal cymdeithasol neu sy’n helpu i’w gefnogi yn y wlad hon.

Edrychaf ymlaen at waith pellach ar y cyd gyda sefydliadau partner dros y blynyddoedd sydd i ddod.

Sarah Rochira, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru

Sarah Rochira

Fel y Comisiynydd Pobl Hŷn, rwyf wedi croesawu’r cyfle i weithio gyda Swyddfa Archwilio Cymru (SAC) a phartneriaid eraill i gynhyrchu’r adroddiad hwn. Mae’r adroddiad yn dilyn fy nghyfranogiad i yn Seminarau Dysgu ar y Cyd SAC ym mis Gorffennaf 2015 , ac rwy’n falch bod y gwaith hwn wedi cryfhau cysylltiadau â’r Archwilydd Cyffredinol a chydweithwyr. Mae angen cydweithio ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru fwy nag erioed, ac rwy’n falch bod SAC ac eraill yn atgyfnerthu fy natganiadau allweddol ac yn cydnabod pwysigrwydd cynnal annibyniaeth pobl hŷn.

O ystyried y rhagolygon ariannol anodd, mae’n rhaid i ddarparwyr gwasanaethau yng Nghymru gydweithio yn awr i ddarparu gwasanaethau o safon uchel sy’n adlewyrchu anghenion pobl hŷn. Nid yw anghenion pobl hŷn yn gyfyngedig i wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, ac mae’n rhaid i ddarparwyr yn y sectorau trafnidiaeth, addysg, tai a hamdden, er enghraifft, ddarparu gwasanaethau cost-effeithiol sy’n helpu i gynnal annibyniaeth pobl hŷn.

Mae taer angen dull cydweithredol, cydgysylltiedig a hirdymor yn awr, a hwnnw’n seiliedig ar yr agendâu integreiddio ac atal, er mwyn dileu rhwystrau allweddol a chynnal iechyd a lles pobl hŷn. Mae cydweithio’n hanfodol i fynd ar drywydd y nodau llesiant cenedlaethol o fewn Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a hefyd y nodau o fewn y Rhaglen Heneiddio’n Dda yng Nghymru.

Rwy’n edrych ymlaen at gydweithio ymhellach gyda SAC a phartneriaid eraill i egluro pwysigrwydd mabwysiadu dull ataliol ac i sicrhau bod darparwyr gwasanaethau cyhoeddus yn gallu defnyddio’r cyfoeth o wybodaeth a phrofiad sydd gan bobl hŷn mewn ffordd well, cynyddu eu cyfraniad i gymunedau ledled Cymru a helpu pobl hŷn ledled Cymru i gynnal eu hiechyd a’u lles.

Os hoffech chi ddod i wybod mwy am yr adroddiad ‘Helpu Pobl Hŷn i Fyw’n Annibynnol: A yw Cynghorau’n Gwneud Digon?’ fe allwch ei lawr lwytho o wefan Swyddfa Archwilio Cymru.

Mae dau (Bennaeth) yn well nag un

Swyddfa Archwilio Cymru

Mae ein blogiwr gwadd Mark Campion, AEM Estyn, yn esbonio’r modd yr aeth Estyn ac Archwilydd Cyffredinol Cymru ati i archwilio gwasanaethau gwella ysgolion a gyflwynir trwy gonsortia rhanbarthol yng Nghymru a’r manteision a ddaw yn sgil cydweithio.

Roedd gan arolygwyr Estyn a staff Swyddfa Archwilio Cymru ddiddordeb cyffredin yn y modd yr oedd y pedwar consortiwm addysg rhanbarthol yn datblygu, a buont yn gweithio gyda’i gilydd i rannu rhagdybiaethau, defnyddio arbenigedd ei gilydd, a gweithio’n fwy effeithlon trwy gydgyfrannu adnoddau.

Sut wnaeth Estyn a Swyddfa Archwilio Cymru weithio gyda’i gilydd ar yr adroddiad hwn? Trawsgrifiad o fideo

Fe wnaethom gynllunio ein hymweliadau gwaith maes gyda’n gilydd, gan dreulio pedwar diwrnod fel tîm cyfunol ym mhob un o’r pedwar rhanbarth. Er bod gan bob sefydliad feysydd diddordeb penodol, roedd gennym yr un diddordeb yn arweinyddiaeth a rheolaeth y consortia. Felly, fe wnaethom gynnal cyfweliadau ag uwch staff ac aelodau etholedig…

View original post 312 more words

Pŵer cydweithio: Pam mae angen i gyrff archwilio ac arolygu yng Nghymru gysylltu mwy gyda’i gilydd

Mandy Townsend

Helo. Fy enw i yw Mandy Townsend ac mae gen i swydd newydd gyffrous rwyf am ddweud wrthych amdani.

Nid yw gweithio fel Rheolwr newydd Rhaglen Arolygu Cymru yn swnio’n gyffrous iawn nac ydi? Ond, credwch chi fi, mae’n rôl hynod wych sydd wedi ei chynllunio i helpu pobl yng Nghymru.

Sut ydw i’n gwneud hynny?

Rwy’n dwyn ynghyd y prif sefydliadau sy’n bodoli i helpu i sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus yn cyflawni’r hyn y dylent fod yn ei gyflawni. Rwy’n eu helpu i gydweithio, i rannu gwybodaeth a chydlynu eu gwaith mor effeithlon ac effeithiol â phosibl. Yr enw ar y gwaith hwn yw ‘Rhaglen Arolygu Cymru.’

Y 4 corff archwilio ac arolygu rwy’n siarad amdanyn nhw yw Swyddfa Archwilio Cymru (o dan arweiniad Archwilydd Cyffredinol Cymru), Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC), Estyn (Arolygiaeth Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru) ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC).

Mae’r rhan fwyaf o’n gwaith ar wahân i raddau helaeth, oherwydd bod gan bob corff ddibenion gwahanol a chyfreithiau gwahanol sy’n llywodraethu’r hyn sydd raid iddynt ei wneud. Ond fe all peth o’n gwaith fod yn canolbwyntio ar faterion cyffredin. Er enghraifft, mae gennym ni i gyd ran i’w chwarae o ran gwirio gwasanaeth cyhoeddus penodol; a cheir meysydd eraill lle mae dau neu dri ohonom yn eu rhannu’r cyfrifoldeb mewn cyfuniadau amrywiol er mwyn craffu ar agweddau o wasanaethau.

Er ein bod ni’n gwybod sut y mae ein gwaith yn ymwneud â’n gilydd, nid yw’r rhan fwyaf o bobl yn gwybod hyn. Felly, rydym wedi ysgrifennu papur byr i’w esbonio.

Yn bersonol, rwy’n hoffi’r crynodeb gweledol hwn:

Arolygu Cymru

Gallwch weld y cysylltiadau rhwng gwaith y pedwar corff archwilio ac arolygu ac mae’n golygu bod cydweithio yn ein helpu ni i gyd i fod yn fwy effeithlon.

Pam?

Ceir sawl rheswm am hyn – ac mae osgoi dyblygu ymdrech yn un ohonynt. Nid dim ond cyrff cyhoeddus sy’n awyddus inni beidio ag archwilio’r un peth ddwywaith. Yn bwysig iawn, nid ydym ni am wneud hynny ychwaith – mae’n gwastraffu ein hamser a’n hegni. Gallem fod yn defnyddio ein hadnoddau cyfyngedig i wneud rhywbeth arall.

Ond, y prif reswm, i mi o leiaf, yw ein bod yn fwy pwerus pan fyddwn yn gweithio gyda’n gilydd. Os ydym i gyd yn cyfrannu at yr un peth (boed yn dda neu’n ddrwg) ac yn adrodd arno bydd pobl yn sylwi, a bydd pethau’n newid.

Dyna pam rydym am weithio gyda’n gilydd cystal ag y gallwn. Wedi’r cwbl, y rheswm rydym i gyd yn dod i’r gwaith yw er mwyn gwella gwasanaethau i bobl Cymru – i wella pethau. Os gall Rhaglen Arolygu Cymru helpu ein partneriaid i wneud hyn yn fwy effeithlon, yna mae’n llwyddiant.

A dyna pam mae fy swydd yn gyffrous.

Ynglŷn â’r awdur:

Mandy Townsend ar wyliau mewn cwchDechreuodd Mandy Townsend ar ei gwaith fel Rheolwr Rhaglen Arolygu Cymru ym mis Chwefror 2015 ac mae wedi ei secondio i’r rôl ran-amser am ddwy flynedd.
Mae Mandy, sydd wedi’i lleoli yng ngogledd Cymru, yn treulio gweddill yr wythnos yn ei rôl wreiddiol fel Archwilydd Perfformiad Iechyd yn Swyddfa Archwilio Cymru.