Ein llwyddiannau diweddaraf a’n gwaith ar y cyd presennol

Roeddwn i eisiau ysgrifennu am yr hyn rydym wedi bod yn brysur yn ei wneud yn y flwyddyn ddiwethaf a myfyrio ar yr holl waith caled yr ydym wedi ei wneud fel Arolygu Cymru.

Beth oedd ein sefyllfa flwyddyn yn ôl?

Flwyddyn yn ôl, cyhoeddwyd archwiliad o’n cynnydd, a ddangosodd ein cynnydd wrth gyflawni pedair thema allweddol dros y 18 mis blaenorol.

Mae’r themâu hyn yn cynnwys y gallu i nodi meysydd lle y gallwn gydweithio; cefnogi dulliau gwahanol o gydweithio i ymateb i newid mewn deddfwriaeth a pholisi yng Nghymru; cydlynu’r gwaith o ddatblygu blaenraglen; a pharhau i hyrwyddo gwaith Arolygu Cymru a chynyddu gwybodaeth y cyhoedd am ein gwaith.

Ymhlith rhai o’r prosiectau cydweithio a ddangoswyd yn yr archwiliad roedd y canlynol:

  • Cydweithiodd Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) â’i gilydd i fonitro ac adolygu gwasanaethau iechyd meddwl;
  • Gweithiodd AGC ac AGIC gyda’i gilydd ar wasanaethau anabledd dysgu;
  • Gweithiodd Estyn a Swyddfa Archwilio Cymru gyda’i gilydd ar yr arolygiad o gonsortia rhanbarthol ar gyfer gwella ysgolion.

Ein gwaith dros y 12 mis diwethaf

Mae ein gwaith prosiect ar y cyd yn parhau mewn llawer o feysydd.  Inspection-Wales-Icon-01Gwasanaethau i Blant a Phobl ifanc:

  • Mae Swyddfa Archwilio Cymru, AGC ac Estyn wedi gweithio gyda’i gilydd ar adolygiad lleol ar y cyd ar ddiogelu plant yng Nghyngor Sir Fynwy.
  • Bydd Estyn ac AGC yn cydweithio i archwilio lleoliadau blynyddoedd cynnar sy’n darparu gofal ac addysg. Mae gwybodaeth bellach am y fframwaith gofal plant a chwarae ar y cyd ar gael ar wefan AGC <https://careinspectorate.wales/early-years-and-childcare-ensuring-quality-care-and-learning&gt;.
  • Mae timau staff Estyn a SAC ar y cyd yn darparu arolygiadau gwasanaethau addysg llywodraeth leol Estyn, sy’n adrodd ar ganlyniadau i ddysgwyr, ansawdd gwasanaethau ac arweiniad, gan gynnwys pa mor dda y mae awdurdodau lleol yn defnyddio eu hadnoddau i gyflawni blaenoriaethau strategol.
  • Mae Estyn ac AGC yn cydweithio’n rheolaidd i arolygu cartrefi plant diogel ac ysgolion a cholegau sydd â darpariaeth breswyl. Yn ystod 2018-2019, bydd Estyn yn gweithio gydag AGC i archwilio ffyrdd o ddatblygu gweithgarwch arolygu ar y cyd i ysgolion annibynnol ac ysgolion arbennig preswyl.
  • Ar hyn o bryd, mae holl bartneriaid Arolygu Cymru yn cwblhau darnau o waith amrywiol ar y thema cymorth i bobl ifanc. Mae gan bob sefydliad rôl a chylch gwaith  gwahanol mewn perthynas â’r pwnc ieuenctid ac yn cydweithio i ddarparu cyfres o adroddiadau ac allbynnau eraill. Cyhoeddwyd adroddiad Estyn ar Wasanaethau Cymorth Ieuenctid yng Nghymru <https://www.estyn.gov.wales/thematic-reports/youth-support-services-wales&gt; gyntaf ar 27 Gorffennaf ac mae SAC yn bwriadu adrodd nesaf, gan gyhoeddi yn Nhachwedd 2018.

Inspection-Wales-Icon-03Gwasanaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol i Oedolion:

  • Cynhaliodd AGC ac AGIC adolygiad ar y cyd o Dimau Iechyd Meddwl Cymuned ledled Cymru. Bydd adroddiad trosolwg cenedlaethol yn cael ei gyhoeddi cyn diwedd 2018, ac mae pob adroddiad arolygu unigol wedi’i gyhoeddi.
  • Yn ddiweddar (Gorffennaf 2018) cyhoeddodd AGC ac AGIC adolygiad thematig ar y cyd o wasanaethau camddefnyddio sylweddau yng Nghymru.
  • Cydweithiodd Swyddfa Archwilio Cymru gydag AGC yn eu harolygiad o Wasanaethau Cymdeithasol Oedolion yng Nghyngor Sir Powys a chyhoeddwydyr adroddiad ym Mai 2018.
  • Mae AGC ac AGIC wedi adolygu’r cymorth gofal iechyd a ddarperir i bobl hŷn sy’n byw mewn cartrefi gofal yng ngogledd Cymru. Bydd adroddiad ar y gwaith hwn yn cael ei gyhoeddi’n fuan.

Myfyrdod

Mae’r esiamplau hyn o waith cydweithredol yn dangos bod partneriaid Arolygu Cymru yn gweithio gyda’i gilydd ar draws amrywiaeth eang o wasanaethau, ond yn enwedig mewn meysydd gofal iechyd ac addysg. Mae ein gwaith ar y cyd yn aml ynglŷn â defnyddio archwilio, arolygu a rheoleiddio fel modd o wella gwasanaethau i’r rhai sy’n fwyaf agored i niwed. Er enghraifft, plant a gedwir mewn lleoliadau diogel, unigolion sy’n cael problemau iechyd meddwl a chamddefnyddio sylweddau a’r rhai sy’n defnyddio gwasanaethau cymdeithasol plant ac oedolion.

Beth nesaf?

Byddwn yn parhau i flaenoriaethu gwaith ar y cyd a all wella gwasanaethau i bobl sy’n agored i niwed. Er enghraifft, mae AGC ac Estyn, yn ogystal ag Arolygiaethau Prawf a Chwnstabliaeth Ei Mawrhydi, yn y camau cynnar o gynllunio adolygiad am ddiogelu plant yng Nghymru, a bydd gwaith maes yn dechrau ar ddiwedd 2019. Bydd ffocws parhaol hefyd ar waith ar y cyd i wella gofal iechyd a chymdeithasol.

Dathlodd y GIG ei ben-blwydd yn 70 ar  5 Gorffennaf 2018, a’r diwrnod canlynol cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei chynllun hirdymor ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru – Cymru Iachach. O dan y cynllun bydd Llywodraeth Cymru yn gofyn i ddau o bartneriaid Arolygu Cymru, AGC ac AGIC, i gynnal adolygiad ar y cyd o effeithiolrwydd Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol a chynnydd y gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru o ran darparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol integredig. (Mae Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol yn gyfrifol am lywio’r gwaith rhanbarthol strategol o ddarparu gwasanaethau gofal cymdeithasol mewn cydweithrediad â chyrff iechyd.)

Mewn blogiau sydd i ddod, byddaf yn adrodd yn fwy am y gwaith diogelu ar y cyd  ac ymateb ar y cyd AGC ac AGIC i Gymru Iachach.

Ynglŷn â’r awdur

Llun o'r awdur, Emma GilesCymerodd Dr Emma Giles drosodd fel Rheolwr Rhaglen Arolygu Cymru ym mis Mawrth 2017. Cyn hyn, roedd Emma yn arweinydd archwilio perfformiad gyda Swyddfa Archwilio Cymru.

Mae Emma yn hoff iawn o weithgareddau awyr agored, yn cynnwys beicio mynydd a cherdded. Mae ganddi ddoethuriaeth mewn Troseddeg, a oedd yn edrych ar sut roedd troseddwyr a staff cyfiawnder troseddol yn deall tegwch, a beth roedd y gwahanol safbwyntiau hyn ynghylch tegwch yn golygu ar gyfer y perthynas rhwng staff a throseddwyr.

Gweithwyr swyddfa yn eistedd wrth ddesg â gliniadur

Heriau cynnal adolygiad ar y cyd…

Mae un o’r arolygiadau rwyf yn gweithio arnynt ar hyn o bryd yn ymwneud ag iechyd y meddwl. Mae’n brosiect ar y cyd rhwng Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC), sef yr arolygiaeth yr wyf i’n gweithio iddi, ac Arolygiaeth Iechyd Cymru (AIC).

Rydym yn ymchwilio i sut mae Timau Iechyd Cymunedol yn darparu gofal, cefnogaeth a thriniaeth i oedolion sydd â phroblemau iechyd meddwl. Fel rhan o’r adolygiad hwn, rydym yn cynnal ymweliadau arolygu ag un Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol ym mhob un o’r 7 bwrdd iechyd yng Nghymru. Rydym yn cynnal cyfweliadau gydag uwch swyddogion mewn byrddau iechyd ac awdurdodau lleol. Hefyd rydym yn ymgynghori ag amrywiaeth eang o randdeiliaid, gan gynnwys defnyddwyr gwasanaethau a’u gofalwyr/teuluoedd, i glywed eu barn am y gwasanaethau maent yn eu derbyn.

Os oes gennych chi ddiddordeb, gallwch gymryd rhan yn yr adolygiad (agorir mewn ffenest newydd).

Hyd yma rydym wedi cwmpasu, cynllunio a chwblhau pedwar ymweliad arolygu ac mae ein gwaith ar y cyd wedi bod yn gymharol hyd yma, er yn heriol ar adegau.

Mae ein methodoleg Arolygu’n cynnwys cyfuniad o ddulliau arferol AIC ac AGGCC. Rydym wedi wynebu rhai heriau – fel a ddylid cynnal ymweliadau gyda neu heb rybudd; dod i gytundeb ynghylch y defnydd o iaith, h.y. “claf”, “defnyddiwr gwasanaeth” a sut i gasglu tystiolaeth o arolygiadau.

Er hynny, rydym wedi canfod dull, gan gynnwys cynllunio a chreu adnoddau asesu, sy’n galluogi i ni gynnal gwerthusiad cyfannol o ansawdd y gofal, y gefnogaeth a’r driniaeth, yn ogystal â chydymffurfiaeth â deddfwriaeth iechyd meddwl a gofal cymdeithasol.

Arweinir y timau arolygu gan AIC ac maent yn cynnwys nifer cyfartal o adolygwyr AIC ac AGGCC. Mae hyn wedi creu rhai heriau ac wedi tynnu sylw at y gwahaniaethau yn y ffordd rydym yn gweithio. Er enghraifft, ymweliadau cartref â defnyddwyr gwasanaeth/gofalwyr yn erbyn ymweliadau swyddfa; y ffordd rydym yn rheoli pryderon brys; a lefel y manylder i’w gynnwys yn yr adborth rhagarweiniol ar lafar.

Er hynny, rydym wedi cytuno ar ddull ar y cyd ac wedi creu timau arolygu cymysg. Mae hyn wedi helpu gyda sicrhau cydbwysedd da o dystiolaeth, drwy drafodaeth fywiog am yr achosion a adolygir a’r staff, y defnyddwyr gwasanaeth a’r gofalwyr rydym wedi’u cyfweld. Hefyd, mae canlyniad positif iawn, sef ein bod, yn broffesiynol, wedi dysgu llawer oddi wrth ein gilydd.

Er ei bod yn ddyddiau cynnar – nid ydym wedi cwblhau adroddiad yr arolwg yn llawn eto – o’m profiad personol i’n cymryd rhan mewn dau ymweliad arolygu, rwyf i’n credu bod ein dull ni o weithio ar y cyd eisoes yn creu gwerthusiad cyffredinol o’r gwasanaethau, sy’n gweithio’n well wrth i bawb gydweithio. Rwyf i’n hyderus iawn y bydd hyn yn cael ei adlewyrchu yn y pen draw yn ein hadroddiad cenedlaethol cyffredinol ar y cyd a gaiff ei gyhoeddi y flwyddyn nesaf.

Am yr awdur

Bobbi JonesMae Bobbie Jones wedi gweithio fel arolygydd i AGGCC gyda’r awdurdod lleol ers 2013. Cyn hyn, gweithiai Bobbie fel arolygydd gydag Arolygiaeth Prawf Ei Mawrhydi ar ôl treulio gyrfa o fwy nag 20 mlynedd yn y Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol.

Cymhwysodd Bobbie fel gweithiwr cymdeithasol yn 1991 ac, ers hynny, mae wedi cwblhau gradd Meistr ym Mhrifysgol Caergrawnt mewn Troseddeg, Penydeg a Rheoli.

Mae Bobbie’n mwynhau garddio, ymlacio gyda llyfr da a chwarae gyda’i hwyrion a’i hwyresau.

Cydweithio i gyflawni adolygiad ar y cyd o drefniadau llywodraethu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr 2017

Mae Swyddfa Archwilio Cymru ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) wedi cwblhau eu pedwerydd adolygiad ar y cyd o drefniadau llywodraethu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, ar 29 Mehefin 2017.

Clawr yr adroddiadDaethant i’r casgliad fod angen gwneud llawer o hyd, er bod y Bwrdd Iechyd ar y trywydd iawn. Gellir ddarllen yr adroddiad ar wefan Swyddfa Archwilio Cymru [agorir mewn ffenest newydd] ac ar wefan AGIC [agorir mewn ffenest newydd].

Fodd bynnag, nid diben y blog hwn yw canolbwyntio ar y casgliadau y daethpwyd iddynt. Yn hytrach,  mae’n seiliedig ar drafodaethau yr wyf i wedi’u cael ag aelodau’r tîm adolygu. Diben y blog yw myfyrio ar eu profiadau, a thrwy wneud hynny, amlygu manteision cydweithredu a nodi rhai ffactorau a gyfrannodd at weithio ar y cyd yn llwyddiannus a rhai o’r heriau posibl. Efallai nad yw’r hyn sy’n dilyn yn astrus iawn, ond rwy’n gobeithio y bydd y safbwynt gwahanol hwn ar archwilio ac arolygu yn ddiddorol i chi.

Cafwyd gwerth ychwanegol o gydweithio mewn nifer o ffyrdd, yn arbennig wrth gyfleu i’r Bwrdd Iechyd ddifrifoldeb yr heriau y mae’n eu hwynebu

O ran aelodau’r tîm adolygu, mae’r weithred o gael Swyddfa Archwilio Cymru ac AGIC at ei gilydd i gynnal yr adolygiad ar y cyd yn bwysig oherwydd ei fod yn rhoi neges glir i’r Bwrdd Iechyd a’i bartneriaid a’i randdeiliaid o ddifrifoldeb y pryderon am drefniadau llywodraethu yn y Bwrdd Iechyd.

Caiff y neges ei hatgyfnerthu gan mai’r adolygiad ar 29 Mehefin 2017 oedd y pedwerydd mewn cyfres o waith ar y cyd a wnaed ers 2012. Yn ystod y cyfnod hwnnw, mae’r adolygiadau ar y cyd o Betsi Cadwaladr gan AGIC a Swyddfa Archwilio Cymru wedi eu sefydlu yn gofnodion awdurdodedig o’r cynnydd a wnaed gan y Bwrdd Iechyd o ran mynd i’r afael â’r heriau mae’n eu hwynebu.

Dylai pwyslais y neges ac awdurdod yr adroddiad gynyddu’r tebygolrwydd y bydd y Bwrdd Iechyd yn cymryd camau yn y meysydd sy’n dal i beri pryder. Mae hyn yn cynnwys y pryder nad yw’r Bwrdd Iechyd wedi datblygu cynllun clir ar gyfer sut y dylid ail-lunio gwasanaethau clinigol yng Ngogledd Cymru i sicrhau eu bod yn hyfyw yn glinigol ac yn ariannol.

Trwy ddefnyddio sgiliau a phrofiadau perthnasol staff AGIC a Swyddfa Archwilio Cymru, crëwyd persbectif mwy cynhwysfawr o’r system gyfan o ran sut y mae prosesau’r Bwrdd Iechyd yn gweithio o brofiadau’r claf i fyny. Yn fras, cyfrannodd staff Swyddfa Archwilio Cymru arbenigedd a gwybodaeth am faterion ariannol a llywodraethu, a chyfrannodd staff AGIC wybodaeth am ofal a diogelwch cleifion.

‘Mae’n swnio’n ystrydebol, ond mae cydweithio llwyddiannus yn dechrau gyda pharodrwydd i gydweithio a thrwy gydnabod arbenigedd a sgiliau pobl eraill’

Yr unig her a nodwyd oedd diffyg man cyfrannol i gadw gwybodaeth, gan arwain at y rheidrwydd i rannu gwybodaeth drwy e-bost. Felly beth, yn ôl y tîm adolygu, oedd yn gyfrifol am lwyddiant y prosiect? A pha gyngor y byddai’n ei roi i eraill sy’n bwriadu gwneud gwaith tebyg ar y cyd? Yn sicr, mae llwyddiant y gwaith hwn i raddau helaeth yn ganlyniad y ffaith mai hwn oedd y pedwerydd darn o waith ar y cyd, ac felly roedd dull sefydledig o gydweithio a dealltwriaeth dda ohono.

Dywedodd un o aelodau’r tîm wrthyf, er ei fod yn swnio braidd yn ystrydebol, fod angen i’r rheini sy’n dechrau gweithio ar y cyd fod yn barod i weithio ag eraill a chydnabod y sgiliau a’r arbenigedd y gall cydweithwyr mewn sefydliadau eraill eu cyfrannu.
Hefyd, dywedwyd bod y llwyddiant yn ymwneud â chadw golwg ar y nod cyffredinol, yn hytrach na bod yn ddogmatig ynglŷn â’r broses. Ar yr un pryd, roedd yn bwysig sicrhau bod trefniadau rheoli’r prosiect wedi’u nodi’n glir, a bod y prosiect wedi’i reoli’n drylwyr i’w gwblhau o fewn yr amserlen y cytunwyd arni. Ymddengys bod cyfathrebu clir a rheolaidd hefyd yn allweddol i lwyddiant y prosiect. Cafodd elfennau allweddol o’r broses eu cyflwyno ar y cyd, megis gwaith maes ac adrodd i fwrdd Betsi Cadwaladr.
Mae hyn yn cysylltu â sylw cynharach a wnaed ynghylch sut mae gweithio ar y cyd wedi helpu i gyfleu difrifoldeb yr heriau i’r Bwrdd Iechyd.

I gloi, cyfeiriodd dau arweinydd y prosiect at gydweithio yn y dyfodol, nid rhwng Swyddfa Archwilio Cymru ac AGIC, ond rhwng AGIC ac Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC) ar dimau iechyd meddwl yn y gymuned. Felly cadwch lygad am yr adroddiad ar y cyd hwnnw y disgwylir ei gyhoeddi ddechrau 2018, ac am flog tebyg i hwn yn sôn am brofiadau tîm adolygu ar y cyd AGIC ac AGGCC.

Ynglŷn â’r awdur

Llun o'r awdur, Emma GilesCymerodd Dr Emma Giles drosodd fel Rheolwr Rhaglen Arolygu Cymru ym mis Mawrth 2017. Cyn hyn, roedd Emma yn arweinydd archwilio perfformiad gyda Swyddfa Archwilio Cymru.

Mae Emma yn hoff iawn o weithgareddau awyr agored, yn cynnwys beicio mynydd a cherdded. Mae ganddi ddoethuriaeth mewn Troseddeg, a oedd yn edrych ar sut roedd troseddwyr a staff cyfiawnder troseddol yn deall tegwch, a beth roedd y gwahanol safbwyntiau hyn ynghylch tegwch yn golygu ar gyfer y perthynas rhwng staff a throseddwyr.

Athro yn dysgu mewn ysgol

Rhaglen Arolygu Cymru yn gwneud cynnydd da

Dywedir weithiau bod adolygwyr allanol fel bysiau; maent i gyd yn ymddangos ar yr un pryd. A’r her i bartneriaid Arolygu Cymru, fel y pedwar prif gorff adolygu allanol yng Nghymru, yw dangos ein bod yn gweithio gyda’n gilydd yn effeithiol i gynllunio a chyflawni ein gwaith. Mae cydweithio o’r fath yn hanfodol er mwyn manteisio i’r eithaf ar ein priod adnoddau cyfyngedig ac ychwanegu’r gwerth mwyaf at gyrff cyhoeddus sy’n cael eu hadolygu a phobl Cymru.

Clawr blaen yr adroddiadRydym wedi cyhoeddi adolygiad o’r cynnydd [agorir mewn ffenest newydd] a wnaed gennym wrth gyflawni ein rhaglen, menter i wella cydweithredu a chydweithio rhwng y pedwar corff adolygu allanol yng Nghymru.

Mae’r enghreifftiau a’r astudiaethau achos a ddisgrifir yn y papur yn dangos i ba raddau mae’r pedwar corff adolygu eisoes yn cynllunio ac yn cyflawni gwaith ar y cyd, ac yn dangos sut, eto i aralleirio ymadrodd arall a ddefnyddir yn gyffredin, mae pedwar pen yn well nag un.

Mae’r papur yn nodi trefniadau hirsefydlog ar gyfer cydweithio, fel uwchgynadleddau iechyd a chyfarfodydd chwarterol rhwng penaethiaid Arolygu. Mae hefyd yn amlinellu menter newydd ddiweddar gan Estyn [agorir mewn ffenest newydd] a gwelliannau i arferion presennol AGGCC [agorir mewn ffenest newydd] sy’n dangos ymhellach yr ymrwymiad i rannu gwybodaeth gan bartneriaid Arolygu Cymru. Mae’n darparu manylion am gydweithio, yn benodol, ond nid yn gyfan gwbl, ym meysydd addysg ac iechyd. Er enghraifft, adolygiadau ar y cyd gan Estyn a Swyddfa Archwilio Cymru [agorir mewn ffenest newydd] o’r pedwar consortiwm rhanbarthol ar gyfer gwella addysg ac adolygiadau ar y cyd gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ac AGGCC o anableddau dysgu a threfniadau Diogelu Rhag Colli Rhyddid.

 

Y camau nesaf i Arolygu Cymru

Dros y 18 mis nesaf, bydd Arolygu Cymru yn datblygu ei adolygiad thematig cenedlaethol ar y cyd cyntaf ar bwnc gwasanaethau i bobl ifanc. Bydd gweithio ar draws eu priod gylchoedd gwaith yn y modd hwn yn galluogi partneriaid Arolygu Cymru i ystyried y gwasanaethau a ddarperir i bobl ifanc gan wahanol gyrff cyhoeddus yn fwy cynhwysfawr ac yn adrodd yn fwy cyfannol ar brofiadau pobl ifanc o wasanaethau.  Bydd blog arall yn y dyfodol agos am y gwaith ar y cyd mae partneriaid Arolygu Cymru yn ei wneud ar wasanaethau ieuenctid yng Nghymru. Yn ogystal, bydd blog arall am yr adolygiad ar y cyd arfaethedig gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru o lywodraethu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

Bydd partneriaid Arolygu Cymru hefyd yn parhau i ymgysylltu â Llywodraeth Cymru wrth iddi ddatblygu ei chynlluniau ar gyfer diwygio llywodraeth leol, fel y nodwyd ym Mhapur Gwyn mis Ionawr 2017 ar ddiwygio llywodraeth leol.

Ynglŷn â’r awdur

emma-gilesCymerodd Dr Emma Giles drosodd fel Rheolwr Rhaglen Arolygu Cymru ym mis Mawrth 2017. Cyn hyn, roedd Emma yn arweinydd archwilio perfformiad gyda Swyddfa Archwilio Cymru.

Mae Emma yn hoff iawn o weithgareddau awyr agored, yn cynnwys beicio mynydd a cherdded. Mae ganddi ddoethuriaeth mewn Troseddeg, a oedd yn edrych ar sut roedd troseddwyr a staff cyfiawnder troseddol yn deall tegwch, a beth roedd y gwahanol safbwyntiau hyn ynghylch tegwch yn golygu ar gyfer y perthynas rhwng staff a throseddwyr.

Gofalwr benywaidd yn gwneud cacennau bach gyda defnyddiwr gwasanaeth benywaidd

Dewis a llais: dull unedig o weithredu

Arweiniodd dull unedig o gydweithredu wrth i Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) ac Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC) gynnal arolygiad ar y cyd at lansio adroddiad llwyddiannus yn cynnwys defnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr, ac ymdrech fawr ar gyfryngau cymdeithasol ar y diwrnod.

Gan gyhoeddi ein canfyddiadau ym mis Mehefin, aethom ni – y ddwy arolygiaeth – ati i herio byrddau iechyd ac awdurdodau lleol i wella’r gwaith o gynllunio a darparu gwasanaethau ar gyfer pobl ag anableddau dysgu.

Gyda’n gilydd, cyflwynwyd rhaglen arolygu genedlaethol hirfaith gennym mewn chwe awdurdod lleol a bwrdd iechyd lleol, i weld sut roedd gwasanaethau’n cael eu cynllunio a’u darparu i bobl yn yr ardaloedd hynny.

Cawsom gyfle i gyfarfod grwpiau rheoli a chynnwys, gan gynnwys Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan [agorir mewn ffenest newydd] a Fforwm Cymru Gyfan ar gyfer Rhieni a Gofalwyr [agorir mewn ffenest newydd], a chynhyrchwyd adroddiad ar gyfer Cymru gyfan gennym a’i lansio mewn digwyddiad yn iSmooth [agorir mewn ffenest newydd], menter gymdeithasol gan Mencap Cymru [agorir mewn ffenest newydd] yn Rhydaman.

Roedd hyn yn gwbl briodol ar gyfer yr adroddiad arbennig yma, gan roi mwy o ystyr iddo na phe bai wedi cael ei lansio mewn lleoliad cyffredinol ar gyfer cynadleddau.
Mae gan lawer o aelodau staff iSmooth anableddau dysgu ac roedd yn bwysig bod y lleoliad yn berthnasol i’r mathau o broblemau sy’n cael eu trafod yn yr adroddiad, am y gefnogaeth sydd ar gael i bobl ag anableddau dysgu.

Dywedodd Kevin Barker, arolygydd ac arweinydd AGGCC yn yr arolygiad, bod y broses yn dangos ymrwymiad i wneud yr hyn rydym yn disgwyl i eraill ei wneud: cydweithio i sicrhau canlyniad gwell.

“Mae gweithredu’n dweud cymaint mwy bob amser na geiriau,” dywedodd.

Yr adwaith ar-lein

Roedd geiriau’n bwysig iawn ar ddiwrnod lansio’r adroddiad hefyd, gyda mwy nag 8,000 o bobl wedi gweld y negeseuon trydar ar sianel Twitter @CSSIW [agorir mewn ffenest newydd] – y sianel Saesneg – rhwng 28 a 29 Mehefin. O blith y bobl hynny a welodd y negeseuon trydar, roedd 2.2% ohonynt wedi naill ai glicio arnynt, clicio ar y dolenni ynddynt neu agor y lluniau.

Y neges drydar fwyaf poblogaidd o’r lansiad, a welwyd gan fwy na 2,240 o bobl, oedd y fideo o Wayne Crocker, Cyfarwyddwr Mencap Cymru. Cafodd y neges ei haildrydar 7 gwaith a’i hoffi 7 gwaith, gan bartneriaid fel Mencap Cymru.

Yn y cyfamser, cyrhaeddodd y negeseuon trydar ar sianel Gymraeg AGGCC ar Twitter, @Arolygu_gofal, 2,000 o bobl yn ystod y deuddydd. O blith y bobl hynny a welodd y negeseuon trydar, cliciodd 0.8% ohonynt arnynt neu ar y dolenni.

O ran sianel Twitter @HIW_Wales [agorir mewn ffenest newydd], a oedd yn aildrydar negeseuon AGGCC drwy gydol y deuddydd, cyrhaeddodd eu negeseuon trydar hwy 283 o bobl, ac ar gyfartaledd roedd 0.4% ohonynt wedi dangos diddordeb ynddynt.

Profiad dysgu gwerthfawr

Mae cydweithio ar raglen arolygu mor bwysig wedi bod yn brofiad dysgu gwerthfawr i’r ddau sefydliad, dywedodd Alun Jones, cyfarwyddwr arolygu, rheoleiddio ac ymchwilio AGIC [agorir mewn ffenest newydd].

“Mae’r adroddiad arolygu cenedlaethol o ganlyniad, ac adroddiadau unigol yr awdurdodau lleol/byrddau iechyd, yn gyfoethocach ac yn fwy pwerus oherwydd cyfraniad y ddwy arolygiaeth,” dywedodd.

“Mae ein gwaith ni wedi galluogi i ni daflu goleuni ar y ffordd mae sefydliadau’n cydweithio i gynllunio a darparu gwasanaethau anableddau dysgu.

“Rydyn ni wedi gwneud nifer o argymhellion pwysig sy’n galw am gydweithio mwy effeithiol er lles y bobl sydd ag anableddau dysgu a’u gofalwyr.”

Tyrchu’n ddyfnach

Roedd modd llunio adroddiadau cyfoethocach a mwy pwerus drwy dyrchu’n ddyfnach gyda’n dull o arolygu, esboniodd rheolwr adolygu AGIC, Emma Philander.

“Yn fy marn i, rydw i’n teimlo bod y gofal a’r gefnogaeth o’r ansawdd gorau ar gyfer oedolion sydd ag anableddau dysgu’n sicrhau eu bod yn diwallu holl anghenion y person,” dywedodd.

“Wrth i AGIC ac AGGCC gydweithio, roedden ni’n gallu asesu’n well i weld a oedd y gwasanaethau’n diwallu holl anghenion y bobl, o bersbectif iechyd a gofal cymdeithasol.

“Roedd cydweithio’n golygu ein bod ni wedi gallu edrych ar gymhlethdod y cydweithredu rhwng staff iechyd a staff gofal cymdeithasol a’r effaith roedd hyn yn ei chael ar bobl sydd ag anableddau dysgu.

“Roedd yn golygu bod posib i ni dyrchu’n ddyfnach gyda’n dull o weithredu a dal yr awdurdodau lleol a’r byrddau iechyd i gyfrif er mwyn gwella gwasanaethau i bobl ag anableddau dysgu.

“Rydw i’n teimlo bod y ddau sefydliad wedi dysgu oddi wrth ddulliau ei gilydd o weithredu ac rydyn ni’n edrych ymlaen at adeiladu ar hyn a chydweithio mwy yn y dyfodol.”

Roedd rheolwr polisi a deddfwriaeth AGIC, Nia Roberts, yn cytuno.

“Un o’r pethau da eraill am y gwaith yma oedd ein bod ni wedi edrych ar fyrddau iechyd ac awdurdodau lleol ar wahanol lefelau,” esboniodd.

“Fe welson ni sut roedd cydweithwyr o wasanaethau iechyd a chymdeithasol yn cydweithio ar y rheng flaen i ddarparu gofal a chefnogaeth i unigolion sydd ag anableddau dysgu.

“Hefyd fe wnaethon ni ofyn i uwch gynrychiolwyr y byrddau iechyd a’r awdurdodau lleol esbonio sut maen nhw’n cynllunio ac yn comisiynu i ddiwallu anghenion yr holl bobl sydd ag anableddau dysgu yn eu hardal. Roedd hyn yn cynnwys craffu gan AGGCC ac AGIC.

“O gofio am ddarpariaethau’r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru), roedd hwn yn waith pwysig ac roedd yn gyfoethocach gan fod y ddwy arolygiaeth yn cymryd rhan.”

Dyma gasgliad arweinydd prosiect AGGCC, Kevin Barker.

“Roedd llawer o fanteision i’r gwaith ar y cyd rhwng AGGCC ac AGIC yn yr arolwg yma, ac yn sicr o ran ystod ac ansawdd y dystiolaeth a gyflwynwyd,” dywedodd.

“Mae pobl ag anableddau a’r teulu sy’n gofalu amdanyn nhw angen help a chefnogaeth yn aml gan wasanaethau iechyd a chymdeithasol. Maen nhw’n disgwyl dull unedig o weithredu gan y bobl a’r asiantaethau sy’n gysylltiedig â hyn ac felly hefyd yr arolygiaethau.”

Mae posib darllen yr adroddiad arolygu ar y cyd ar y wefan AGGCC [Agorir mewn ffenest newydd].

Adroddiad Arolygu Cymru ar fwrdd gwyn

A yw gweithio ar y cyd yn gweithio? Cydweithio rhwng cyrff archwilio ac arolygu yng Nghymru … y stori hyd yma

Bedair blynedd yn ôl, arwyddodd penaethiaid y pedwar prif sefydliad archwilio ac arolygu yng Nghymru gytundeb i ffurfioli cydweithio rhwng y sefydliadau.

Roedd yn gam rhesymegol gan Swyddfa Archwilio Cymru (dan arweiniad Archwilydd Cyffredinol Cymru), Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC), Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru (Estyn) ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC).

Roedd y cytundeb yn cryfhau’r cysylltiadau rhwng y pedwar sefydliad ac yn gosod sylfaen gadarn ar gyfer gwell cydweithredu, rhannu gwybodaeth a chynllunio busnes. Yr amcan allweddol? Gwella canlyniadau i bobl Cymru.

Ond a wnaethon ni gyflawni’r hyn roeddem wedi bwriadu ei gyflawni?

Wel, pan wnes i gychwyn fy swydd newydd fel Rheolwr Rhaglen Arolygu Cymru ym mis Chwefror 2015, dyna oedd y peth cyntaf roeddwn eisiau ei wybod. Felly, a wnaethon ni lwyddo?

Felly, a wnaethon ni lwyddo?

Do, rwy’n credu ein bod ni. Ond, nid ydym (hyd yma) wedi dweud wrth lawer o bobl am y peth.

Mi wnaethon ni gynhyrchu adroddiad ar ein cynnydd hyd yn hyn, sy’n cyflwyno rhai canfyddiadau manwl. Gallwch ddarllen mwy am y canfyddiadau yma yn yr adroddiad, ond dyma roi crynodeb ohonynt yma.

Perthnasoedd

Mae’r rhain yn anodd eu mesur, ond gallaf dystio bod y berthynas rhwng ein pedwar sefydliad yn gryf ac yn bodoli ar sawl lefel ar draws y busnesau. Mae angen sicrhau lefel o ymddiriedaeth er mwyn gweithio gyda’n gilydd y tu allan i’n cynefin sefydliadol, ac rydym yn gwneud hynny. Dydw i ddim yn dweud bod popeth yn berffaith, ac mewn rhai meysydd mae’r perthnasoedd hyn yn dal i ddatblygu, ond rydym wedi gosod sylfeini cadarn.

Blociau adeiladu

Roedd angen i ni gytuno ar sut ydym yn gwneud pethau gyda’n gilydd. Nid oedd hynny’n mor hawdd ag y gallai fod, oherwydd ein bod i gyd yn gweithio o dan gyfreithiau a threfniadau adrodd yn ôl gwahanol. Rydym eisoes wedi cyhoeddi ein papur cylch gwaith, sy’n egluro hyn i gyd yn fanwl. Felly, roedd angen i ni weithio trwy brosesau sylfaenol fel rhannu gwybodaeth, a’r ffordd rydym yn ymdrin â phryderon difrifol am sefydliad.

Gweithio ar y cyd

Rydym wedi gwneud llawer o bethau ar y cyd, ond nid ydym bob amser wedi dweud wrth bawb ein bod wedi gwneud hynny gyda’n gilydd! Mae ein hadroddiad cyfrif stoc yn cynnwys sawl enghraifft, a bydd rhai o’r rhain yn ddarnau cyfarwydd o waith i chi, ond efallai nad oeddech yn ymwybodol mai gwaith ar y cyd oeddent.

Rydym yn gwybod bod angen i ni wella o ran rhannu ein llwyddiannau wrth weithio ar y cyd. Dyna un o’n rhesymau dros sefydlu’r safle blogio yma. Byddaf yn ysgrifennu mwy o flogiadau yn ystod yr wythnosau a’r misoedd nesaf, ond y bwriad hefyd yw cael cyfraniadau gan bobl eraill sy’n teimlo yr un mor angerddol am weithio ar y cyd.

Rydym yn edrych ymlaen at rannu mwy am ein bwriadau archwilio ac arolygu gyda chi, er mwyn gadael i’r bobl yng Nghymru wybod a ydynt yn cael yr hyn sydd ei angen arnynt a’r hyn y maent yn ei haeddu.

Ynglŷn â’r awdur

Mandy Townsend ar wyliau mewn cwch

Mandy Townsend ar wyliau mewn cwchDechreuodd Mandy Townsend ar ei gwaith fel Rheolwr Rhaglen Arolygu Cymru ym mis Chwefror 2015 ac mae wedi ei secondio i’r rôl ran-amser am ddwy flynedd.

Mae Mandy, sydd wedi’i lleoli yng ngogledd Cymru, yn treulio gweddill yr wythnos yn ei rôl wreiddiol fel Archwilydd Perfformiad Iechyd yn Swyddfa Archwilio Cymru.

 

Macbook arddangos canllawiau ar rannu gwybodaeth

Rhannu neu beidio? Sut rydym yn defnyddio ein gwybodaeth ar y cyd i gydweithredu’n effeithiol

Un o elfennau allweddol y cydweithredu rhwng partneriaid Arolygu Cymru yw rhannu gwybodaeth. Ac mae defnyddio gwybodaeth ac arbenigedd ein sefydliadau ar y cyd wedi dechrau gwella cadernid a chwmpas ein gwaith eisoes.

Mae ein hadroddiad diweddaraf ar gonsortia addysg rhanbarthol yng Nghymru yn enghraifft wych o hyn. Fel y manylir gan Mark Campion o Estyn mewn neges flaenorol ar y blog yma, roedd rhannu ein data a’n hymchwil ar y cyd yn ffordd wych i ni ychwanegu gwerth.

Drwy sefydlu fframwaith sy’n galluogi i ni rannu gwybodaeth cyn i ni ddechrau ar y darn o waith hwn ar y cyd, roedd modd i ni gydweithio i elwa o’r manteision a llunio dau adroddiad, ar gyfer Llywodraeth Cymru a Chynulliad Cenedlaethol Cymru, heb wastraffu adnoddau a dyblygu ymdrechion.

Fodd bynnag, mae’n bwysig gweithredu’n briodol gyda gwybodaeth sensitif ac, yn ystod y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi rhoi gweithgor ar waith gyda’n partneriaid i sicrhau bod yr hyn rydym yn ei rannu yn briodol ac yn gytbwys.

Edrychodd y grŵp hwn ar y canlynol:

  • pa wybodaeth oedd gan bawb
  • sut rydym yn ei chadw
  • beth ddylem ei rannu, ac
  • edrych ar sut ddylem wneud hynny’n ddiogel ac yn gyfreithiol.

Gallwch ddychmygu pa mor gymhleth yw hyn o ystyried ehangder a dyfnder cyfrifoldebau’r partneriaid. Yn y pen draw, yr hyn yr oedd ein staff ei angen oedd fframwaith i rannu gwybodaeth ac, yn bwysicach na dim efallai, caniatâd y Penaethiaid – Archwilydd Cyffredinol Cymru, Prif Arolygydd yr Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol, Prif Arolygydd Estyn a Phrif Weithredwr Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru – i wneud hynny pan mae ein gwaith yn gofyn am y cam gweithredu hwnnw.

Mae rhannu gwybodaeth yn hanfodol i lwyddiant unrhyw gydweithredu ac mae sefydlu fframwaith ar gyfer hyn yn golygu nad ydym yn cael ein dal mewn trap o gadw arbenigedd i ni ein hunain. Mae hefyd yn golygu ein bod yn gallu cydweithio tuag at ein nod ar y cyd – cefnogi gwell canlyniadau i bobl Cymru.

Darllenwch ein crynodeb i gael gwybod sut rydym yn rhannu gwybodaeth.

Ynglŷn â’r awdur:

Mandy Townsend ar wyliau mewn cwchMandy Townsend ar wyliau mewn cwchDechreuodd Mandy Townsend ar ei gwaith fel Rheolwr Rhaglen Arolygu Cymru ym mis Chwefror 2015 ac mae wedi ei secondio i’r rôl ran-amser am ddwy flynedd.

Mae Mandy, sydd wedi’i lleoli yng ngogledd Cymru, yn treulio gweddill yr wythnos yn ei rôl wreiddiol fel Archwilydd Perfformiad Iechyd yn Swyddfa Archwilio Cymru.

Rhoi cydweithio ar waith

Mae adroddiad ar y cyd ar annibyniaeth pobl hŷn, a gyhoeddwyd heddiw, yn esiampl wych o’r ffordd mae Rhaglen Arolygu Cymru yn datblygu ei dulliau o gydweithio.

Fe gynhaliwyd yr astudiaeth hon gan Swyddfa Archwilio Cymru ac Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru, sy’n rhan o Arolygu Cymru, ynghyd â Chomisiynydd Pobl Hŷn Cymru.

Yn y blog hwn, mae cynrychiolwyr o bob un o’r tri sefydliad yn amlinellu’r manteision o weithio gyda’i gilydd ar yr adroddiad hwn a sut mae cydweithio yn eu helpu nhw i gyflawni gwell allbynnau.

Huw Vaughan Thomas, Archwilydd Cyffredinol Cymru

Auditor General for Wales

Cydweithio. Mae pawb yn son amdano a’r buddion sydd i’w cael o’i wneud. Fe fyddwch chi’n gyfarwydd â’r darlun. Defnydd gwell o adnoddau, y gallu i ddwyn ar wybodaeth ehangach, gwybodaeth arbenigol, profiad helaethach sy’n arwain at well dealltwriaeth, ac yn ymarferol hefyd – mae dau ben yn well nag un wrth fynd i’r afael â thasg anodd. Fel cysyniad, mae’n anodd dadlau yn ei erbyn, ond gall fod yn anodd iawn i’w wneud, serch hynny. Mae angen cydbwyso arddulliau gweithio gwahanol, disgwyliadau gwahanol ac amcanion gwahanol os yw am lwyddo. Mae’n helpu hefyd os ydych chi’n dod ymlaen ac os yw’r naill a’r llall yn hoff o’i gilydd.

Wrth feddwl am y manteision ac anfanteision o gydweithio, rwy’n falch o ddweud fod astudiaeth Swyddfa Archwilio Cymru ar annibyniaeth barhaus pobl hŷn, a gyhoeddwyd ar 15 Hydref 2015, wedi ei seilio ar brofiad o gydweithio’n effeithiol. Ein cydweithwyr yn Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru a Swyddfa Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru fu’n cynorthwyo’r Archwilydd Cyffredinol wrth gyflawni’r astudiaeth hon, a hynny mewn modd cadarnhaol.

Yn sgil y gefnogaeth a ddarparwyd, y cyngor a dderbyniwyd, yn ogystal â’r holl gymorth o ran siapio’r fethodoleg, cyflawni gwaith maes, dosbarthu arolygon, hyrwyddo’r gwaith ac adolygu’r darganfyddiadau, cafwyd adolygiad cynhwysfawr wnaeth arwain at ddarlun manwl o’r ffordd mae cynghorau yn helpu pobl hŷn i fyw’n annibynnol. Oni bai am frwdfrydedd a pharodrwydd AGGCC a’r Comisiynydd i gefnogi’r gwaith yma, ni fyddai cwmpas nac effaith yr astudiaeth wedi bod mor gynhwysfawr. Mae un peth yn sicr, mae buddion cydweithio yn amlwg i bawb ac yn rhywbeth y mae angen i ni barhau i weithio arno, ac yn rhywbeth y gallwn ni – ac sydd angen i ni – wneud mwy ohono.

Imelda Richardson, Prif Arolygydd, Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru

Imelda Richardson

Rydym yn cydweithio gyda’r arolygiaethau eraill yng Nghymru ac rydym yn falch o gefnogi dull o weithio ar y cyd, fel a ddangoswyd gennym trwy gydweithio gydag Estyn i greu fframwaith arolygu ar y cyd ar gyfer gwasanaethau blynyddoedd cynnar. Mae gennym nifer o gytundebau o ran sut yr ydym yn gweithio gyda chyrff rheoleiddio ac arolygiaethau eraill ac awdurdodau lleol sy’n rhan o wella ansawdd gofal cymdeithasol a gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru.

Ar gyfer yr adroddiad hwn roeddem yn gallu rhannu gwybodaeth o’n gweithgarwch arolygu ym mhob un o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru, a chydweithio gyda phartneriaid i ganolbwyntio’n well ar les ein poblogaeth hŷn. Roeddem yn hapus i gyflawni rôl gefnogol ar gyfer yr adroddiad hwn a rhannu ein gwybodaeth a’n profiad mewn perthynas ag anghenion pobl hŷn.

Mae ein gwaith yn rhan bwysig o’r sector gofal cymdeithasol yng Nghymru, ac mae cydweithio yn ein galluogi i fod yn llais cryfach dros wella gofal ar gyfer pobl yng Nghymru na phe baem yn gweithredu ar wahân.

Mae derbyn syniadau ynghylch arfer gorau a chymryd golwg drawsbynciol ar draws maes gofal cymdeithasol yn ein galluogi i wella ein hymarfer ni ein hunain a rhannu syniadau’n fwy eang ar draws sefydliadau eraill, ac ni all hyn ond cael effaith gadarnhaol ar y bobl yng Nghymru sy’n dibynnu ar ofal cymdeithasol neu sy’n helpu i’w gefnogi yn y wlad hon.

Edrychaf ymlaen at waith pellach ar y cyd gyda sefydliadau partner dros y blynyddoedd sydd i ddod.

Sarah Rochira, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru

Sarah Rochira

Fel y Comisiynydd Pobl Hŷn, rwyf wedi croesawu’r cyfle i weithio gyda Swyddfa Archwilio Cymru (SAC) a phartneriaid eraill i gynhyrchu’r adroddiad hwn. Mae’r adroddiad yn dilyn fy nghyfranogiad i yn Seminarau Dysgu ar y Cyd SAC ym mis Gorffennaf 2015 , ac rwy’n falch bod y gwaith hwn wedi cryfhau cysylltiadau â’r Archwilydd Cyffredinol a chydweithwyr. Mae angen cydweithio ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru fwy nag erioed, ac rwy’n falch bod SAC ac eraill yn atgyfnerthu fy natganiadau allweddol ac yn cydnabod pwysigrwydd cynnal annibyniaeth pobl hŷn.

O ystyried y rhagolygon ariannol anodd, mae’n rhaid i ddarparwyr gwasanaethau yng Nghymru gydweithio yn awr i ddarparu gwasanaethau o safon uchel sy’n adlewyrchu anghenion pobl hŷn. Nid yw anghenion pobl hŷn yn gyfyngedig i wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, ac mae’n rhaid i ddarparwyr yn y sectorau trafnidiaeth, addysg, tai a hamdden, er enghraifft, ddarparu gwasanaethau cost-effeithiol sy’n helpu i gynnal annibyniaeth pobl hŷn.

Mae taer angen dull cydweithredol, cydgysylltiedig a hirdymor yn awr, a hwnnw’n seiliedig ar yr agendâu integreiddio ac atal, er mwyn dileu rhwystrau allweddol a chynnal iechyd a lles pobl hŷn. Mae cydweithio’n hanfodol i fynd ar drywydd y nodau llesiant cenedlaethol o fewn Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a hefyd y nodau o fewn y Rhaglen Heneiddio’n Dda yng Nghymru.

Rwy’n edrych ymlaen at gydweithio ymhellach gyda SAC a phartneriaid eraill i egluro pwysigrwydd mabwysiadu dull ataliol ac i sicrhau bod darparwyr gwasanaethau cyhoeddus yn gallu defnyddio’r cyfoeth o wybodaeth a phrofiad sydd gan bobl hŷn mewn ffordd well, cynyddu eu cyfraniad i gymunedau ledled Cymru a helpu pobl hŷn ledled Cymru i gynnal eu hiechyd a’u lles.

Os hoffech chi ddod i wybod mwy am yr adroddiad ‘Helpu Pobl Hŷn i Fyw’n Annibynnol: A yw Cynghorau’n Gwneud Digon?’ fe allwch ei lawr lwytho o wefan Swyddfa Archwilio Cymru.

Pŵer cydweithio: Pam mae angen i gyrff archwilio ac arolygu yng Nghymru gysylltu mwy gyda’i gilydd

Mandy Townsend

Helo. Fy enw i yw Mandy Townsend ac mae gen i swydd newydd gyffrous rwyf am ddweud wrthych amdani.

Nid yw gweithio fel Rheolwr newydd Rhaglen Arolygu Cymru yn swnio’n gyffrous iawn nac ydi? Ond, credwch chi fi, mae’n rôl hynod wych sydd wedi ei chynllunio i helpu pobl yng Nghymru.

Sut ydw i’n gwneud hynny?

Rwy’n dwyn ynghyd y prif sefydliadau sy’n bodoli i helpu i sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus yn cyflawni’r hyn y dylent fod yn ei gyflawni. Rwy’n eu helpu i gydweithio, i rannu gwybodaeth a chydlynu eu gwaith mor effeithlon ac effeithiol â phosibl. Yr enw ar y gwaith hwn yw ‘Rhaglen Arolygu Cymru.’

Y 4 corff archwilio ac arolygu rwy’n siarad amdanyn nhw yw Swyddfa Archwilio Cymru (o dan arweiniad Archwilydd Cyffredinol Cymru), Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC), Estyn (Arolygiaeth Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru) ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC).

Mae’r rhan fwyaf o’n gwaith ar wahân i raddau helaeth, oherwydd bod gan bob corff ddibenion gwahanol a chyfreithiau gwahanol sy’n llywodraethu’r hyn sydd raid iddynt ei wneud. Ond fe all peth o’n gwaith fod yn canolbwyntio ar faterion cyffredin. Er enghraifft, mae gennym ni i gyd ran i’w chwarae o ran gwirio gwasanaeth cyhoeddus penodol; a cheir meysydd eraill lle mae dau neu dri ohonom yn eu rhannu’r cyfrifoldeb mewn cyfuniadau amrywiol er mwyn craffu ar agweddau o wasanaethau.

Er ein bod ni’n gwybod sut y mae ein gwaith yn ymwneud â’n gilydd, nid yw’r rhan fwyaf o bobl yn gwybod hyn. Felly, rydym wedi ysgrifennu papur byr i’w esbonio.

Yn bersonol, rwy’n hoffi’r crynodeb gweledol hwn:

Arolygu Cymru

Gallwch weld y cysylltiadau rhwng gwaith y pedwar corff archwilio ac arolygu ac mae’n golygu bod cydweithio yn ein helpu ni i gyd i fod yn fwy effeithlon.

Pam?

Ceir sawl rheswm am hyn – ac mae osgoi dyblygu ymdrech yn un ohonynt. Nid dim ond cyrff cyhoeddus sy’n awyddus inni beidio ag archwilio’r un peth ddwywaith. Yn bwysig iawn, nid ydym ni am wneud hynny ychwaith – mae’n gwastraffu ein hamser a’n hegni. Gallem fod yn defnyddio ein hadnoddau cyfyngedig i wneud rhywbeth arall.

Ond, y prif reswm, i mi o leiaf, yw ein bod yn fwy pwerus pan fyddwn yn gweithio gyda’n gilydd. Os ydym i gyd yn cyfrannu at yr un peth (boed yn dda neu’n ddrwg) ac yn adrodd arno bydd pobl yn sylwi, a bydd pethau’n newid.

Dyna pam rydym am weithio gyda’n gilydd cystal ag y gallwn. Wedi’r cwbl, y rheswm rydym i gyd yn dod i’r gwaith yw er mwyn gwella gwasanaethau i bobl Cymru – i wella pethau. Os gall Rhaglen Arolygu Cymru helpu ein partneriaid i wneud hyn yn fwy effeithlon, yna mae’n llwyddiant.

A dyna pam mae fy swydd yn gyffrous.

Ynglŷn â’r awdur:

Mandy Townsend ar wyliau mewn cwchDechreuodd Mandy Townsend ar ei gwaith fel Rheolwr Rhaglen Arolygu Cymru ym mis Chwefror 2015 ac mae wedi ei secondio i’r rôl ran-amser am ddwy flynedd.
Mae Mandy, sydd wedi’i lleoli yng ngogledd Cymru, yn treulio gweddill yr wythnos yn ei rôl wreiddiol fel Archwilydd Perfformiad Iechyd yn Swyddfa Archwilio Cymru.