Gweithwyr swyddfa yn eistedd wrth ddesg â gliniadur

Heriau cynnal adolygiad ar y cyd…

Mae un o’r arolygiadau rwyf yn gweithio arnynt ar hyn o bryd yn ymwneud ag iechyd y meddwl. Mae’n brosiect ar y cyd rhwng Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC), sef yr arolygiaeth yr wyf i’n gweithio iddi, ac Arolygiaeth Iechyd Cymru (AIC).

Rydym yn ymchwilio i sut mae Timau Iechyd Cymunedol yn darparu gofal, cefnogaeth a thriniaeth i oedolion sydd â phroblemau iechyd meddwl. Fel rhan o’r adolygiad hwn, rydym yn cynnal ymweliadau arolygu ag un Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol ym mhob un o’r 7 bwrdd iechyd yng Nghymru. Rydym yn cynnal cyfweliadau gydag uwch swyddogion mewn byrddau iechyd ac awdurdodau lleol. Hefyd rydym yn ymgynghori ag amrywiaeth eang o randdeiliaid, gan gynnwys defnyddwyr gwasanaethau a’u gofalwyr/teuluoedd, i glywed eu barn am y gwasanaethau maent yn eu derbyn.

Os oes gennych chi ddiddordeb, gallwch gymryd rhan yn yr adolygiad (agorir mewn ffenest newydd).

Hyd yma rydym wedi cwmpasu, cynllunio a chwblhau pedwar ymweliad arolygu ac mae ein gwaith ar y cyd wedi bod yn gymharol hyd yma, er yn heriol ar adegau.

Mae ein methodoleg Arolygu’n cynnwys cyfuniad o ddulliau arferol AIC ac AGGCC. Rydym wedi wynebu rhai heriau – fel a ddylid cynnal ymweliadau gyda neu heb rybudd; dod i gytundeb ynghylch y defnydd o iaith, h.y. “claf”, “defnyddiwr gwasanaeth” a sut i gasglu tystiolaeth o arolygiadau.

Er hynny, rydym wedi canfod dull, gan gynnwys cynllunio a chreu adnoddau asesu, sy’n galluogi i ni gynnal gwerthusiad cyfannol o ansawdd y gofal, y gefnogaeth a’r driniaeth, yn ogystal â chydymffurfiaeth â deddfwriaeth iechyd meddwl a gofal cymdeithasol.

Arweinir y timau arolygu gan AIC ac maent yn cynnwys nifer cyfartal o adolygwyr AIC ac AGGCC. Mae hyn wedi creu rhai heriau ac wedi tynnu sylw at y gwahaniaethau yn y ffordd rydym yn gweithio. Er enghraifft, ymweliadau cartref â defnyddwyr gwasanaeth/gofalwyr yn erbyn ymweliadau swyddfa; y ffordd rydym yn rheoli pryderon brys; a lefel y manylder i’w gynnwys yn yr adborth rhagarweiniol ar lafar.

Er hynny, rydym wedi cytuno ar ddull ar y cyd ac wedi creu timau arolygu cymysg. Mae hyn wedi helpu gyda sicrhau cydbwysedd da o dystiolaeth, drwy drafodaeth fywiog am yr achosion a adolygir a’r staff, y defnyddwyr gwasanaeth a’r gofalwyr rydym wedi’u cyfweld. Hefyd, mae canlyniad positif iawn, sef ein bod, yn broffesiynol, wedi dysgu llawer oddi wrth ein gilydd.

Er ei bod yn ddyddiau cynnar – nid ydym wedi cwblhau adroddiad yr arolwg yn llawn eto – o’m profiad personol i’n cymryd rhan mewn dau ymweliad arolygu, rwyf i’n credu bod ein dull ni o weithio ar y cyd eisoes yn creu gwerthusiad cyffredinol o’r gwasanaethau, sy’n gweithio’n well wrth i bawb gydweithio. Rwyf i’n hyderus iawn y bydd hyn yn cael ei adlewyrchu yn y pen draw yn ein hadroddiad cenedlaethol cyffredinol ar y cyd a gaiff ei gyhoeddi y flwyddyn nesaf.

Am yr awdur

Bobbi JonesMae Bobbie Jones wedi gweithio fel arolygydd i AGGCC gyda’r awdurdod lleol ers 2013. Cyn hyn, gweithiai Bobbie fel arolygydd gydag Arolygiaeth Prawf Ei Mawrhydi ar ôl treulio gyrfa o fwy nag 20 mlynedd yn y Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol.

Cymhwysodd Bobbie fel gweithiwr cymdeithasol yn 1991 ac, ers hynny, mae wedi cwblhau gradd Meistr ym Mhrifysgol Caergrawnt mewn Troseddeg, Penydeg a Rheoli.

Mae Bobbie’n mwynhau garddio, ymlacio gyda llyfr da a chwarae gyda’i hwyrion a’i hwyresau.

Gofalwr benywaidd yn gwneud cacennau bach gyda defnyddiwr gwasanaeth benywaidd

Dewis a llais: dull unedig o weithredu

Arweiniodd dull unedig o gydweithredu wrth i Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) ac Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC) gynnal arolygiad ar y cyd at lansio adroddiad llwyddiannus yn cynnwys defnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr, ac ymdrech fawr ar gyfryngau cymdeithasol ar y diwrnod.

Gan gyhoeddi ein canfyddiadau ym mis Mehefin, aethom ni – y ddwy arolygiaeth – ati i herio byrddau iechyd ac awdurdodau lleol i wella’r gwaith o gynllunio a darparu gwasanaethau ar gyfer pobl ag anableddau dysgu.

Gyda’n gilydd, cyflwynwyd rhaglen arolygu genedlaethol hirfaith gennym mewn chwe awdurdod lleol a bwrdd iechyd lleol, i weld sut roedd gwasanaethau’n cael eu cynllunio a’u darparu i bobl yn yr ardaloedd hynny.

Cawsom gyfle i gyfarfod grwpiau rheoli a chynnwys, gan gynnwys Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan [agorir mewn ffenest newydd] a Fforwm Cymru Gyfan ar gyfer Rhieni a Gofalwyr [agorir mewn ffenest newydd], a chynhyrchwyd adroddiad ar gyfer Cymru gyfan gennym a’i lansio mewn digwyddiad yn iSmooth [agorir mewn ffenest newydd], menter gymdeithasol gan Mencap Cymru [agorir mewn ffenest newydd] yn Rhydaman.

Roedd hyn yn gwbl briodol ar gyfer yr adroddiad arbennig yma, gan roi mwy o ystyr iddo na phe bai wedi cael ei lansio mewn lleoliad cyffredinol ar gyfer cynadleddau.
Mae gan lawer o aelodau staff iSmooth anableddau dysgu ac roedd yn bwysig bod y lleoliad yn berthnasol i’r mathau o broblemau sy’n cael eu trafod yn yr adroddiad, am y gefnogaeth sydd ar gael i bobl ag anableddau dysgu.

Dywedodd Kevin Barker, arolygydd ac arweinydd AGGCC yn yr arolygiad, bod y broses yn dangos ymrwymiad i wneud yr hyn rydym yn disgwyl i eraill ei wneud: cydweithio i sicrhau canlyniad gwell.

“Mae gweithredu’n dweud cymaint mwy bob amser na geiriau,” dywedodd.

Yr adwaith ar-lein

Roedd geiriau’n bwysig iawn ar ddiwrnod lansio’r adroddiad hefyd, gyda mwy nag 8,000 o bobl wedi gweld y negeseuon trydar ar sianel Twitter @CSSIW [agorir mewn ffenest newydd] – y sianel Saesneg – rhwng 28 a 29 Mehefin. O blith y bobl hynny a welodd y negeseuon trydar, roedd 2.2% ohonynt wedi naill ai glicio arnynt, clicio ar y dolenni ynddynt neu agor y lluniau.

Y neges drydar fwyaf poblogaidd o’r lansiad, a welwyd gan fwy na 2,240 o bobl, oedd y fideo o Wayne Crocker, Cyfarwyddwr Mencap Cymru. Cafodd y neges ei haildrydar 7 gwaith a’i hoffi 7 gwaith, gan bartneriaid fel Mencap Cymru.

Yn y cyfamser, cyrhaeddodd y negeseuon trydar ar sianel Gymraeg AGGCC ar Twitter, @Arolygu_gofal, 2,000 o bobl yn ystod y deuddydd. O blith y bobl hynny a welodd y negeseuon trydar, cliciodd 0.8% ohonynt arnynt neu ar y dolenni.

O ran sianel Twitter @HIW_Wales [agorir mewn ffenest newydd], a oedd yn aildrydar negeseuon AGGCC drwy gydol y deuddydd, cyrhaeddodd eu negeseuon trydar hwy 283 o bobl, ac ar gyfartaledd roedd 0.4% ohonynt wedi dangos diddordeb ynddynt.

Profiad dysgu gwerthfawr

Mae cydweithio ar raglen arolygu mor bwysig wedi bod yn brofiad dysgu gwerthfawr i’r ddau sefydliad, dywedodd Alun Jones, cyfarwyddwr arolygu, rheoleiddio ac ymchwilio AGIC [agorir mewn ffenest newydd].

“Mae’r adroddiad arolygu cenedlaethol o ganlyniad, ac adroddiadau unigol yr awdurdodau lleol/byrddau iechyd, yn gyfoethocach ac yn fwy pwerus oherwydd cyfraniad y ddwy arolygiaeth,” dywedodd.

“Mae ein gwaith ni wedi galluogi i ni daflu goleuni ar y ffordd mae sefydliadau’n cydweithio i gynllunio a darparu gwasanaethau anableddau dysgu.

“Rydyn ni wedi gwneud nifer o argymhellion pwysig sy’n galw am gydweithio mwy effeithiol er lles y bobl sydd ag anableddau dysgu a’u gofalwyr.”

Tyrchu’n ddyfnach

Roedd modd llunio adroddiadau cyfoethocach a mwy pwerus drwy dyrchu’n ddyfnach gyda’n dull o arolygu, esboniodd rheolwr adolygu AGIC, Emma Philander.

“Yn fy marn i, rydw i’n teimlo bod y gofal a’r gefnogaeth o’r ansawdd gorau ar gyfer oedolion sydd ag anableddau dysgu’n sicrhau eu bod yn diwallu holl anghenion y person,” dywedodd.

“Wrth i AGIC ac AGGCC gydweithio, roedden ni’n gallu asesu’n well i weld a oedd y gwasanaethau’n diwallu holl anghenion y bobl, o bersbectif iechyd a gofal cymdeithasol.

“Roedd cydweithio’n golygu ein bod ni wedi gallu edrych ar gymhlethdod y cydweithredu rhwng staff iechyd a staff gofal cymdeithasol a’r effaith roedd hyn yn ei chael ar bobl sydd ag anableddau dysgu.

“Roedd yn golygu bod posib i ni dyrchu’n ddyfnach gyda’n dull o weithredu a dal yr awdurdodau lleol a’r byrddau iechyd i gyfrif er mwyn gwella gwasanaethau i bobl ag anableddau dysgu.

“Rydw i’n teimlo bod y ddau sefydliad wedi dysgu oddi wrth ddulliau ei gilydd o weithredu ac rydyn ni’n edrych ymlaen at adeiladu ar hyn a chydweithio mwy yn y dyfodol.”

Roedd rheolwr polisi a deddfwriaeth AGIC, Nia Roberts, yn cytuno.

“Un o’r pethau da eraill am y gwaith yma oedd ein bod ni wedi edrych ar fyrddau iechyd ac awdurdodau lleol ar wahanol lefelau,” esboniodd.

“Fe welson ni sut roedd cydweithwyr o wasanaethau iechyd a chymdeithasol yn cydweithio ar y rheng flaen i ddarparu gofal a chefnogaeth i unigolion sydd ag anableddau dysgu.

“Hefyd fe wnaethon ni ofyn i uwch gynrychiolwyr y byrddau iechyd a’r awdurdodau lleol esbonio sut maen nhw’n cynllunio ac yn comisiynu i ddiwallu anghenion yr holl bobl sydd ag anableddau dysgu yn eu hardal. Roedd hyn yn cynnwys craffu gan AGGCC ac AGIC.

“O gofio am ddarpariaethau’r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru), roedd hwn yn waith pwysig ac roedd yn gyfoethocach gan fod y ddwy arolygiaeth yn cymryd rhan.”

Dyma gasgliad arweinydd prosiect AGGCC, Kevin Barker.

“Roedd llawer o fanteision i’r gwaith ar y cyd rhwng AGGCC ac AGIC yn yr arolwg yma, ac yn sicr o ran ystod ac ansawdd y dystiolaeth a gyflwynwyd,” dywedodd.

“Mae pobl ag anableddau a’r teulu sy’n gofalu amdanyn nhw angen help a chefnogaeth yn aml gan wasanaethau iechyd a chymdeithasol. Maen nhw’n disgwyl dull unedig o weithredu gan y bobl a’r asiantaethau sy’n gysylltiedig â hyn ac felly hefyd yr arolygiaethau.”

Mae posib darllen yr adroddiad arolygu ar y cyd ar y wefan AGGCC [Agorir mewn ffenest newydd].